Carcharu dyn o Fôn am fwrgleriaeth
Mae dyn 36 oed wedi ei garcharu ar ôl cyflawni bwrgleriaeth mewn tŷ cwpwl tra’r oedden nhw ar wyliau.
Cafodd Mark Anthony Goodier o Landdaniel, Gaerwen, ei yrru i garchar am i ddwy flynedd a phum mis o garchar yn Llys y Goron Caernarfon ar ôl cyfaddef bwrgleriaeth a thrafod nwyddau wedi’u dwyn.
Torrodd Goodier i mewn i gartref ar Ffordd yr Orsaf, Llanberis ar nos Iau, 19 Rhagfyr 2024, tra’r oedd y teulu i ffwrdd ar wyliau.
Fe wnaeth chwilota drwy’r tŷ, gan ddwyn nifer o eitemau gwerthfawr a char y teulu.
Noson yn ddiweddarach, yn ystod oriau mân ddydd Gwener, 20 Rhagfyr 2024, ceisiodd fynd i mewn i adeilad busnes ar Stryd y Farchnad drwy ddifrodi’r system larwm a phanel gwydr mewn drws, ond ni chafodd eiddo ei ddwyn.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Will Leon-Portillo: “Roedd hwn yn brofiad hynod o boenus i’r dioddefwyr, a’u cartref wedi’i chwilota tra ‘roedden nhw i ffwrdd ar wyliau.”
“Mae’r digwyddiad hwn wedi cael effaith ddifrifol arnyn nhw, ac wedi eu gadael yn teimlo’n anniogel yn eu cartref eu hunain, yn ogystal â cholli nifer o eitemau o werth personol.”
“Ni allai unrhyw ddedfryd ddadwneud niwed gweithrediadau Goodier, ond ‘dwi’n gobeithio ein bod ni’n tawelu meddwl y cyhoedd drwy barhau i weithio’n ddi-baid er mwyn gwarchod diogelwch ein cymunedau ni.”