Ynys Môn: Achub tri oedd mewn trafferthion oddi ar draeth Benllech
Fe gafodd tri o bobl oedd wedi mynd i drafferthion oddi ar draeth ar Ynys Môn eu hachub gan yr RNLI a Gwylwyr y Glannau ddydd Sul.
Roedd y tri wedi ceisio nofio allan o draeth Benllech at gwch oedd wedi dod yn rhydd o angor mewn môr garw a gwynt cryf, meddai aelod o griw RNLI Moelfre.
Dywedodd llywiwr bad achub Moelfre, Mike Hughes-Roberts, y dylai pobl aros oddi allan o'r môr os oedd “unrhyw amheuaeth” am y tywydd.
Fe gafodd ei griw eu galw ar ôl adroddiadau bod tri pherson mewn trafferthion oddi ar y traeth.
Fe gyrhaeddodd y bad achub a hofrennydd chwilio ac achub Gwylwyr y Glannau yn fuan wedyn a dechrau chwilio am y tri yn syth.
Fe ddaeth yr hofrennydd o hyd i un person ymhellach allan i’r môr a’i achub yn ddiogel.
Fe wnaeth criw bad achub Moelfre lansio eu cwch llai a dod o hyd i’r ddau berson arall a’u hachub yn fuan wedyn.
Yna cafodd y tri eu trosglwyddo i ofal swyddogion Gwylwyr y Glannau oedd yn aros ar draeth Benllech.
Dywedodd Mike Hughes-Roberts: “Roedd y bobl yn ceisio nofio allan at gwch oedd wedi dod yn rhydd o’i angor mewn môr garw a gwynt cryf o’r tir.
“Mae amodau’n gallu newid mor gyflym, ac mae’n hollbwysig bod yn wyliadwrus wrth ymwneud â’r môr. Mae’n gallu bod mor beryglus a didrugaredd os nad ydych chi’n dangos y parch mae’n ei haeddu.
“Dylech chi bob amser wirio’r tywydd ac ystyried eich gallu. Os oes unrhyw amheuaeth, mae’n well aros allan o’r dŵr.”
Llun: RNLI/Ian Marlow