Newyddion S4C

Ysgolion yn Rhuthun yn cloi eu drysau wedi adroddiad am 'ddyn gyda bwyell'

Sgwar San Pedr Rhuthun

Bu'n rhaid i ysgolion yn nhref Rhuthun gloi eu drysau am gyfnod ddydd Mercher yn dilyn adroddiadau am ddyn gyda bwyell yn yr ardal.

Derbyniodd yr heddlu adroddiad am o ddyn yn cerdded ar hyd ffordd yn yn y dref am 13:50, ac yntau "o bosib yn cario bwyell".

Aeth swyddogion yr heddlu i'r ardal ond ni chafwyd hyd i neb.

Yn dilyn hynny, penderfynodd sawl ysgol yn yr ardal i gloi eu drysau i'r cyhoedd am gyfnod.

Mewn datganiad dywedodd yr heddlu: "Gallwn eich sicrhau na fu unrhyw fygythiad credadwy i ddiogelwch y gymuned, a chynghorwyd yr ysgolion i ganiatáu i ddisgyblion adael.

"Bydd swyddogion yn aros yn y cyffiniau er mwyn parhau ag ymholiadau ac er mwyn rhoi sicrwydd i drigolion."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.