
Morlyn llanw yn Aber Hafren yn 'risg arwyddocaol' i fyd natur
Byddai creu morlyn llanw (tidal lagoon) yn aber afon Hafren yn achosi "risg arwyddocaol" i natur meddai'r RSPB.
Mae Comisiwn Aber Afon Hafren yn dweud y dylai llywodraethau Cymru a'r DU helpu i adeiladu prosiect morlyn llanw er mwyn "manteisio ar rym y llanw ar ffin Cymru a Lloegr."
Daw hyn wedi i gynigion ar gyfer morglawdd mawr ar draws yr Hafren gael ei wrthod.
Dywedodd llefarydd ar ran RSPB Cymru wrth Newyddion S4C bod morlynnoedd llanw yn peri "risg arwyddocaol" i natur.
"Mae Cymru a'r DU yn wynebu argyfwng natur a hinsawdd," medden nhw.
"Mae morlynnoedd llanw yn peri risg arwyddocaol i natur sydd heb gael eu goresgyn hyd yma, ac nid ydym yn gallu eu hanwybyddu.

"Mae angen i gynefinoedd sydd wedi eu diogelu a bywyd gwyllt yr aber bod yn ganolog i unrhyw ystyriaeth i ddatblygiad o'r fath."
Mae Aber Hafren wedi ei leoli yn y môr rhwng Caerdydd a Chasnewydd a Weston-super Mare.
Mae ardal lle byddai'r morlyn llanw yn cael ei greu wedi ei warchod fel gwlypdir o bwysigrwydd rhyngwladol.
'Peryglu bywyd gwyllt'
Yn ôl y comisiwn mae'r galw am drydan ym Mhrydain yn debygol o fwy na dyblu erbyn 2050.
Ychwanegodd yr adroddiad fod amrediadau llanw uchaf y byd yn Aber Hafren yn cyflwyno "cyfle prin" i'r DU.
Er bod RSPB Cymru yn cydnabod bod angen newid i ynni adnewyddadwy, ni ddylai hynny gael ei gyflawni ar draul yr amgylchedd, medden nhw.
"Mae angen trawsnewid i egni adnewyddadwy os ydym am ddatgarboneiddio ein heconomi ac osgoi cynhesu byd eang, a fydd yn drychinebus i'r byd.
"Ond mae angen cyflawni hyn mewn modd fydd ddim yn peryglu ein bywyd gwyllt sydd eisoes yn dioddef, na chwaith difetha ei allu i adfer o'i sefyllfa bresennol."
Mae modd ffurfio morlynnoedd llanw trwy adeiladu wal o amgylch bae neu'r arfordir, er mwyn sicrhau bod dŵr yn cael ei gadw yno wrth i'r llanw ddod i mewn.
Roedd 'na gynigion i adeiladu morlyn ym Mae Abertawe, ond cafodd hynny ei atal gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn 2018.
Roedd hynny oherwydd nad oedd yn cynnig gwerth am arian, medden nhw ar y pryd.