Newyddion S4C

Arestio dyn mewn cysylltiad â thrywanu gyrrwr danfon nwyddau

Dale Court, Y Barri

Mae dyn 26 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad gyda thrywanu gyrrwr danfon nwyddau yn y Barri.

Fe ddigwyddodd y trywanu tua 22.40 ar nos Sadwrn, 15 Mawrth yn ardal Dale Court. 

Dyw anafiadau’r dioddefwr ddim yn rhai sydd yn peryglu bywyd nac yn rhai fydd yn newid bywyd yr unigolyn chwaith. 

Mae’r heddlu yn dal i ymchwilio ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.