
'Mae’n strach ac yn annheg': Galw am ddatrys problemau parcio Ysbyty Gwynedd
Mae 'na alw am ddatrys y sefyllfa barcio y tu allan i Ysbyty Gwynedd, gyda chwynion nad oes lle yno i'r holl gleifion, ymwelwyr a staff sydd yn gweithio ar y safle.
Mae un dyn a wnaeth dderbyn dirwy ar ôl parcio mewn lle oedd wedi ei wahardd ar dir yr ysbyty gan nad oedd lle arall ar gael wedi disgrifio ei gosb fel un ‘annheg a llawn strach’.
Yn ôl Griffith Jones o Walchmai, doedd dim opsiwn arall ond parcio tu hwnt i ardal benodedig wrth iddo fynd i nôl ei bartner a'i fabi newydd-anedig.
'Rhwystredig'
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cydnabod bod y sefyllfa'n "rhwystredig" ac yn gweithio gyda’r awdurdod lleol.
Yn ôl Griffith Jones fe yrrodd am 20 munud o gwmpas safle Ysbyty Gwynedd ym mis Rhagfyr y llynedd gan chwilio am le addas i barcio.
Ond wrth fethu a gwneud hynny ag yntau angen nôl ei deulu, fe barciodd ar ochr y pafin gan dderbyn dirwy maes o law.
“Mi oedd na gwpl o geir di parcio yn yr un lle ac mi oedd ceir yn gallu dod heibio heb broblem”, meddai.
“Doeddwn i ddim yn rhwystro neb.
“Pan ddes i i nôl y sêt o’r car mi oedd na diced ar y sgrin. Mae’n strach ‘da chi’m angen ac yn teimlo bod o’n annheg”.

Er i Mr Jones herio’r gosb o £50, neu hanner hynny os yn talu yn brydlon, gyda Chyngor Gwynedd, mi dalodd yn y pendraw ond mae'n mynnu nad yw’r sefyllfa yn deg.
Mae’n achos y mae’r Aelod Ceidwadol o’r Senedd Janet Finch Saunders hefyd yn codi pryderon yn ei gylch.
“Ma’n rhaid bod modd iddyn nhw godi rhagor o lefydd parcio”, meddai.
“Mae’n effeithio mwy na dim ond y cleifion ac ymwelwyr, mae ‘na staff hefyd ac mae nhw'n diolch i mi am godi’r achos”.
Mae’r aelod dros Aberconwy yn galw ar Gyngor Gwynedd i atal rhoi rhagor o ddirwyon nes y bydd ateb parhaol i’r trefniadau parcio.
Cyngor Gwynedd sydd yng ngofal trefniadau gorfodaeth parcio ar y safle.
'Parcio yn her'
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd yn berchen ar y safle ac maen nhw'n cydnabod y gall parcio “fod yn her ar safle Ysbyty Gwynedd”, gan dderbyn pa mor “rwystredig” y gall y sefyllfa fod i gleifion, ymwelwyr a staff.
“Nid oes ffordd gyflym na hawdd o ychwanegu lleoedd parcio oherwydd cyfyngiadau ariannol a’r diffyg tir sydd ar gael gerllaw’r ysbyty lle gellid gosod lleoedd parcio ychwanegol.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Awdurdod Lleol i sicrhau bod gwaith gorfodaeth parcio yn canolbwyntio ar sicrhau bod y safle’n ddiogel i gerddwyr a cherbydau hanfodol neu frys.”
Yn ôl Cyngor Gwynedd “y bwriad yw sicrhau bod eu meysydd parcio yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch i bob ymwelydd a modurwyr.
“Cydnabyddir y gallai’r galw am barcio ar adegau fod yn uwch na’r ddarpariaeth mewn nifer o leoliadau, ac am nifer o resymau.
“Gall unrhyw un sy'n credu eu bod wedi derbyn tocyn parcio yn annheg apelio drwy ddilyn y cyfarwyddiadau a roddir ar eu tocyn.
“Mae Ysbyty Gwynedd hefyd yn cael ei wasanaethu'n dda gan wasanaethau bws a all fod yn ffordd i ymweld â’r safle”.