The Vivienne wedi marw 'ar ôl cymryd Ketamine'
Bu farw’r seren drag o Fae Colwyn, ‘The Vivienne’ o ataliad ar y galon a achoswyd ar ôl cymryd y cyffur Ketamine, yn ôl datganiad gan y teulu.
Cafodd James Lee Williams, enillydd y gyfres RuPaul’s Drag Race, eu darganfod yn farw yn eu cartref yn Sir Gaer ar ddydd Sul 5 Ionawr.
Dywedodd chwaer y perfformiwr, Chanel Williams, bod ei theulu yn gweithio gydag elusen cam-drin cyffuriau er mwyn codi ymwybyddiaeth o beryglon y cyffur.
Cafodd cwest agoriadol i farwolaeth The Vivienne ei agor a'i ohirio fis diwethaf, gyda'r crwner yn dweud bod The Vivienne wedi marw 'o achosion annaturiol.'
Bydd cwest llawn i'r farwolaeth yn cael ei gynnal fis Mehefin.
Dywedodd Heddlu Sir Gaer nad oedd amgylchiadau’r farwolaeth yn amheus.
Dywedodd Simon Jones, rheolwr a ffrind agos i’r perfformiwr, fod y teulu'n teimlo ei bod hi'n bwysig rhannu amgylchiadau eu marwolaeth.
Dywedodd: "Rwy'n gobeithio, trwy i ni ryddhau'r wybodaeth yma, y gallwn godi ymwybyddiaeth am beryglon defnydd parhaus o Ketamine a'r hyn y gall ei wneud i'ch corff."
Yn wreiddiol o Fae Colwyn, fe symudodd The Vivienne i Lerpwl yn ddiweddarach a chael yr ysbrydoliaeth yno am eu henw drag.
Cafodd angladd The Vivienne ei gynnal ym Modelwyddan ar 27 Ionawr, gyda chanwr y band Steps Ian ‘H’ Watkins, yr actores Coronation Street, Claire Sweeney, a’r bersonoliaeth teledu Kim Woodburn ymhlith y galarwyr.