'Dysgu gwersi Hillsborough': Cefnogaeth i siarter drychinebau newydd
Fe fydd sefydliadau yng Nghymru yn ymateb i drychinebau cyhoeddus mewn ffordd wahanol yn y dyfodol.
Daw hyn yn sgil siarter newydd sydd wedi ei greu wedi'r "gwersi a ddysgwyd o drychineb Hillsborough".
Fe fydd goroeswyr ac aelodau teuluoedd pobl a wnaeth ddioddef yn nhrychinebau Aberfan, Hillsborough, Grenfell a’r ymosodiad yn Manchester Arena, yn bresennol wrth i'r siarter gael ei lansio ym Merthyr Tudful fore Mawrth.
Mae dros 50 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi ymrwymo i ymateb i drychinebau mewn modd “agored, thryloyw a gyda ateboldeb”. Yn eu plith mae Llywodraeth Cymru, yr heddluoedd, y gwasanaeth ambiwlans a gwasanaethau tân ac achub.
Bydd y siarter yn gorfodi cyrff cyhoeddus i newid y ffordd y maen nhw’n ymdrin â theuluoedd yn dilyn trychinebau.
Bydd hyn yn cynnwys cynnig cefnogaeth i deuluoedd a chymunedau sydd wedi dioddef profedigaeth, a darparu gwasanaethau y bydd ei angen arnyn nhw cyn, yn ystod ac wedi’r digwyddiad.
'Arwain y ffordd'
Dywedodd awdur y siarter, yr Esgob James Jones, ei fod yn “foment hollbwysig ym mywyd y genedl” a bod "Cymru yn arwain y ffordd".
“Mae’r siarter yn addewid; ar ôl unrhyw drasiedi yn y dyfodol, na fydd neb ar ôl i fyw gyda’u galar ar ben eu hunain.
"Ni fydd neb eto'n dioddef y 'tueddiad nawddoglyd o bŵer anatebol'."