Newyddion S4C

Cipolwg ar gemau rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD

Chwaraewyr Cei Connah yn dathlu sgorio yn erbyn Llansawel

Am y tro cyntaf ers ffurfio Uwch Gynghrair Cymru yn 1992, mae dau dîm o du allan i’r brif gynghrair wedi llwyddo i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru.

Mae nifer o achosion ble mae un o glybiau’r ail haen wedi cyrraedd y rownd gynderfynol yn y gorffennol, gyda Bae Colwyn y diweddaraf o'r rheiny yn 2022, ond tydyn ni erioed wedi cael dau glwb o’r ail haen yn cyrraedd y rownd gynderfynol yn yr un tymor tan eleni.

Llanelli a Cambrian United yw’r ddau glwb sydd wedi cyflawni’r gamp honno, ac mae nhw’n wynebu her sylweddol yn erbyn y timau gyrhaeddodd y rownd derfynol llynedd, sef Cei Connah ac Y Seintiau Newydd.

Yn ogystal â’r ddwy gêm gwpan, bydd dwy gêm gynghrair yn cael ei chynnal dros y penwythnos wrth i Ben-y-bont a Hwlffordd gystadlu am yr ail safle yn y Cymru Premier JD.

Cei Connah v Llanelli | Dydd Sadwrn – 12:30 (S4C) (Coedlan y Parc, Aberystwyth)

Cei Connah yw deiliaid Cwpan Cymru JD ar ôl i’r Nomadiaid guro’r Seintiau Newydd o 2-1 yn y rownd derfynol y tymor diwethaf, a bydd Billy Paynter yn benderfynol o gipio’r cwpan eto eleni i hawlio ei dlws cyntaf ers cael ei benodi’n reolwr ar y clwb.

Mae Cei Connah wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf heb ildio unwaith, ond ar y cyfan, dyw'r tymor ddim wedi bod yn un da iawn i’r Nomadiaid gan i’r clwb fethu â selio eu lle ymysg y Chwech Uchaf, ond pe bae’r clwb yn codi Cwpan Cymru ym mis Mai, yna byddai hynny’n bendant yn ddigon i droi tymor gwael yn dymor llwyddiannus.

Mae Llanelli ar y llaw arall yn mwynhau ymgyrch ragorol yng Nghynghrair y De, mewn safle cryf i sicrhau dyrchafiad yn ôl i’r uwch gynghrair am y tro cyntaf ers 2019, ac wedi llwyddo i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers 14 mlynedd.

Mae Llanelli ond wedi colli un o’u 21 gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth ac mae’r Cochion ddau bwynt yn glir ar frig eu cynghrair gyda dim ond pedair rownd o gemau ar ôl i’w chwarae.

Yn 2011 fe enillodd Llanelli Gwpan Cymru am yr unig dro yn eu hanes, yn curo Bangor yn y rownd derfynol gyda Rhys Griffiths a Chris Venables ymysg y sgorwyr i’r Cochion ar Barc y Scarlets y diwrnod hwnnw.

Mae Cei Connah wedi codi’r cwpan ddwywaith – y tro cyntaf yn 2017/18 ar ôl curo Aberystwyth yn y rownd derfynol, cyn ennill y gystadleuaeth am yr eildro y tymor diwethaf.

Llanelli fydd y pumed clwb o’r ail haen i wynebu’r Nomadiaid yn y cwpan y tymor hwn, gyda Cei Connah yn curo Cegidfa (5-0), Trefelin (1-2), Yr Wyddgrug (1-0) a Caerau Trelai (0-2) yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.

Dyw Llanelli heb ildio gôl yn eu pedair gêm gwpan hyd yma ar ôl trechu Clwb Cymric (0-3), Pilgwenlli (4-0), Hwlffordd (0-2) o’r uwch gynghrair, a Dinbych (0-1) yn y rowndiau blaenorol.

Fe wnaeth y clybiau yma gyfarfod ddwy flynedd yn ôl ym mhedwaredd rownd y cwpan gyda Cei Connah yn ennill o 2-0 ar Barc Stebonheath wedi i Ben Nash a Joe Malkin benio’r goliau i’r Nomadiaid o giciau cornel.

Cyn hynny doedd y clybiau heb gyfarfod ers eu gemau cynghrair yn 2018/19 pan enillodd Cei Connah o 7-0 ym Mharc Stebonheath ac ennill o 6-0 yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy.

Wrth ystyried y canlyniadau rheiny, doedd hi ddim yn syndod gweld Llanelli yn syrthio o’r haen uchaf yn haf 2019, ond mae’r Cochion wedi cryfhau unwaith eto ac yn gobeithio achosi sioc ddydd Sadwrn er mwyn cyrraedd y rownd derfynol am y pedwerydd tro yn eu hanes.

Cambrian United v Y Seintiau Newydd | Dydd Sul – 12:45 (Yn fyw arlein) (Coedlan y Parc, Aberystwyth)

Mae carfan Cambrian United wedi creu hanes wrth i’r clwb gyrraedd y rownd gynderfynol am y tro cyntaf erioed eleni.

Mae Cambrian yn eistedd yng nghanol tabl Cynghrair y De, ac fel Cei Connah, mae’r Glöwyr wedi cyrraedd y rownd gynderfynol heb wynebu clwb o’r uwch gynghrair gan drechu Goytre Utd (cos 0-0), Llandudno (3-2), Lido Afan (0-0 cos) a Caerfyrddin (3-1) hyd yma.

Tim Parker oedd yr arwr i Cambrian yn y rownd ddiwethaf, yn sgorio ddwywaith yn erbyn Caerfyrddin gan ychwanegu at ei gôl yn erbyn Llandudno yn y drydedd rownd.

Bydd hi’n dasg anferthol i Cambrian ar Goedlan y Parc, yn erbyn unig glwb proffesiynol pyramid pêl-droed Cymru, a’r tîm sydd ar rediad anhygoel o 13 buddugoliaeth yn olynol.

Mae’r Seintiau Newydd eisoes wedi codi Cwpan Nathaniel MG y tymor hwn, ac mae’r bencampwriaeth fwy neu lai wedi ei chadarnhau, ac felly Cwpan Cymru yw’r tlws olaf sydd ei angen ar gewri Croesoswallt i gwblhau’r trebl domestig am y tro cyntaf ers naw mlynedd.

Mae’r Seintiau Newydd wedi ennill Cwpan Cymru ar naw achlysur, a dim ond yr Alltudion sydd wedi ennill mwy - Wrecsam (23), Caerdydd (22), Abertawe (10).

Mae’r Seintiau wedi chwarae mewn 13 ffeinal (ennill 9, colli 4), ac wedi cyrraedd wyth o’r naw rownd derfynol ddiwethaf, gan ennill chwech o’r rheiny yn erbyn chwe clwb gwahanol (Aber, Drenewydd, Airbus, Cei Connah, Pen-y-bont, Bala).

Ond colli’n annisgwyl yn y rownd derfynol oedd eu hanes y tymor diwethaf, gyda Cei Connah yn cipio’r cwpan, a bydd Craig Harrison yn ysu i adennill y tlws eleni.

Dechreuodd y Seintiau eu hymgyrch yn y gystadleuaeth hon mewn steil gyda buddugoliaeth ryfeddol yn erbyn Llangollen (16-0), cyn mynd ymlaen i guro Met Caerdydd (1-3), Bae Colwyn (4-1) ac Airbus UK (5-0) ar eu ffordd i’r rownd gynderfynol. 

Hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y clybiau ers Tachwedd 2018 pan enillodd Cambrian United o 2-1 wedi amser ychwanegol yn erbyn y Seintiau yn rownd gynderfynol Cwpan Nathaniel MG, a byddai’n stori arbennig pe bae’r clwb o Ddyffryn Clydach yn gallu cyflawni’r amhosib unwaith yn rhagor.

Y Bala (6ed) v Hwlffordd (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Ar ôl crafu eu ffordd i mewn i’r hanner uchaf, tydi bywyd ddim wedi bod yn hawdd i’r Bala ymysg yr elît gan i’r clwb fethu a chipio dim un pwynt ers yr hollt.

Mae’r Bala wedi colli pum gêm gynghrair yn olynol, a bydd Hogiau’r Llyn yn benderfynol o beidio colli chwe gêm o’r bron am y tro cyntaf ers Ebrill 2018.

Mae’r Bala wedi cyrraedd Ewrop ar naw achlysur ers haf 2013, ond bydd angen codi ysbryd carfan Colin Caton os am geisio cyrraedd y nod eto eleni. 

Mae Hwlffordd yn mwynhau tymor arbennig, ac er ildio pum gôl yn erbyn y pencampwyr y penwythnos diwethaf, yr Adar Gleision sydd yn dal â’r record amddiffynnol orau’n y gynghrair.

Mae tîm Tony Pennock ond wedi ildio 19 gôl mewn 27 gêm y tymor hwn (0.7 gôl y gêm), a daeth 26% o’r goliau rheiny yn erbyn y Seintiau ddydd Sadwrn diwethaf.

Mae gan Zac Jones 14 llechen lân i’w enw hyd yma, ac wrth i’r gemau brinhau byddai un llechen lân arall yn ddigon i hawlio’r Faneg Aur, gan na fedr unrhyw golwr arall gael mwy nac 14 erbyn hyn.

Mae Hwlffordd wedi hawlio saith pwynt allan o’r naw posib yn eu tair gêm yn erbyn Y Bala y tymor hwn, gan ennill o 2-0 ar eu hymweliad diwethaf â Maes Tegid ym mis Hydref.

Record gynghrair ddiweddar: 

Y Bala: ❌❌❌❌❌

Hwlffordd: ✅➖➖✅❌

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.