Newyddion S4C

Achos Porthmadog: Plismon yn dweud ei fod yn 'poeni am ddiogelwch' cyd-weithiwr

06/05/2025
PC Richard Williams

Mae plismon sydd wedi ei gyhuddo o ymosod ar ddyn mewn gardd ym Mhorthmadog wedi dweud ei fod wedi pryderu am ddiogelwch ei gyd-weithiwr ar y pryd.

Mae PC Richard Williams, 43 oed, wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiadau o achosi niwed corfforol a thagu bwriadol.

Yn ystod yr achos yn ei erbyn yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, fe ddywedodd Mr Williams ei fod yn credu ei fod ef a’i gyd-weithiwr, PC Einir Williams, “mewn perygl” wrth geisio arestio Steven Clark.

Roedd y swyddogion yn ceisio arestio Mr Clark mewn cysylltiad ag ymosodiad honedig yn gynharach yn y dydd, y tu allan i dŷ cyn bartner Mr Clark ar ystâd Pensyflog yn y dref.

Honnir fod Mr Clark wedi bygwth ei gyn bartner a phoeri tuag ati, a’i fod dan ddylanwad cyffuriau.

Wrth gael ei holi gan y bargyfreithiwr Simon Kealey KC, oedd yn ei amddiffyn, dywedodd Mr Williams ei fod yn “angenrheidiol” arestio Mr Clark, rhag i’r sefyllfa “waethygu”.

Aethant i gyfeiriad arall ar yr ystâd, yn 23 Pensyflog, lle y dywedodd Mr Clark ei fod yno i wneud gwaith garddio.

Wrth i PC Einir Williams arestio'r dyn, dywedodd PC Richard Williams ei fod yn “addas” mai ef oedd yn arwain yr ymdrech i roi cyffion ar Mr Clark.

'Ymosod'

Ar ôl rhoi ei law chwith yn un o’r cyffion, dywedodd Mr Williams nad oedd Mr Clark yn gwrando ar ei gyfarwyddiadau i ddod a’i fraich dde ar draws ei gorff.

Yna, fe wnaeth Mr Clark ddechrau llefain fel ei bod mewn poen.

“Roedd ei law yn un o’r cyffion, ac fe wnaeth o sŵn fel fy mod i wedi gwneud rhywbeth i’w fraich," meddai Richard Williams.

"Ond do’n i heb neud unrhyw beth, ro’n i’n dal [y fraich] mewn safe fertigol, heb ei throi. Fe wnaeth hynny wneud i mi amau ei fod am geisio gwneud rhywbeth.

“Wedyn fe aeth o amdani hi. Roedd fy ngreddf gyntaf yn dweud ei fod fel tacl rygbi. Yn fy marn i, roedd yn symudiad bwriadol.

“Dwi ddim yn siŵr os oedd yn ceisio ymosod ar Einir, neu ddianc, neu’r ddau.

"Yr unig beth oedd hi’n trio ei wneud oedd cymryd ei ffôn o’i law arall, wnaeth hi ddim ei dynnu o gwbl.

“Fe wnes adael fynd o’r cyffion a cheisio ei dynnu yn ôl. Roeddwn i’n poeni am Einir a fy mwriad oed i’w dynnu nôl."

Dywedodd Mr Williams iddo dynnu Mr Clark yn ôl er mwyn ceisio cael rheolaeth ohono.

“Roedd yn gryf iawn ac roedd yn ceisio tynnu i ffwrdd. Roed yn gryfach nag o’n i wedi ddisgwyl,” meddai.

Fe aeth y tri i’r llawr, a dywedodd Mr Williams bod ei fraich dde rownd Mr Clark, ac wedi llithro i fyny fel ei fod yn gafael ynddo gerfydd ei wddf.

“Roedd hynny er mwyn ei gadw ar y llawr a’i stopio rhag ymosod ar Einir," meddai.

“Roedd yn parhau i wrthsefyll yr arést, yn tynnu i ffwrdd ohona i yr holl amser.”

Ergydion

Yna, dywedodd Mr Williams ei fod wedi dyrnu Mr Clark sawl gwaith tra ei fod ar y llawr gyda’i law chwith.

Dywedodd nad oedd wedi defnyddio grym o’r fath o’r blaen, mewn dros 21 mlynedd yn ystod ei yrfa fel plismon.

“Mae ergydion tynnu sylw ('distraction strikes') yn cael eu caniatáu," meddai.

"Roeddwn i wedi ystyried fy opsiynau, doeddwn i ddim hefo mynediad i’r offer diogelwch, fel pastwn neu taser.

“Fe ddefnyddiais fwy nag un ergyd, gan nad oedd gen i ffydd yn fy ngallu i ddyrnu gyda'm llaw chwith gyda digon o rym i dynnu ei sylw.”

Fe gwynodd Mr Clark bod ei fraich mewn poen sawl gwaith tra ar y llawr.

“Roeddwn yn amheus iawn ei fod yn ceisio tynnu fy sylw," meddai Mr Williams. 

"Do’n i heb wneud unrhyw beth i'w fraich, a ro’n i’n grediniol ei fod yn ceisio tynnu fy sylw er mwyn ymosod ar Einir.”

'Dim opsiwn'

Gyda’r ddau swyddog yn methu â chwblhau'r arestiad, daeth swyddog oedd yn yr ardal ac nad oedd ar ddyletsywdd i gynorthwyo’r swyddogion, a gosod braich dde Mr Clark yn y cyffion.

Fe gymerodd bum neu chwe munud i symud Mr Clark i mewn i’r fan, ac fe benderfynodd y swyddogion ddefnyddio chwistrell er mwyn ceisio ei orfodi i gydymffurfio.

“Doeddwn ni ddim yn teimlo fod yna opsiwn arall,” meddai Mr Williams.

Dywedodd Mr Williams ei fod yn “gwbl flinedig, yn gorfforol, meddyliol ac emosiynol” yn dilyn yr ymdrech i arestio Mr Clark.

"Dyna'r tro cyntaf mewn 19 mlynedd ro'n i 'di gweld rhywun yn ymosod ar un o fy nghyd-weithwyr benywaidd. Ro'n i wedi dychryn. Fe ddywedais wrtho am fihafio, ond roedd wastad yn ceisio gwrthsefyll ein hymdrechion."

Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol o anafiadau i lygaid Mr Clark, a’i fod yn bwriadu ei drosglwyddo i swyddogion eraill yng ngorsaf Porthmadog, cyn iddo gael ei drosglwyddo i’r ysbyty am asesiad.

Croesholi

Wrth gael ei groesholi gan y bargyfreithiwr Richard Edwards ar ran yr erlyniad, dywedodd Mr Williams nad oedd yn credu y byddai un ergyd ar Mr Clark yn ddigon i fod yn effeithiol.

“Ro’n i wedi cael fy rhoi mewn safle anodd. Roedd Steven Clark wedi ymosod ar fy nghyd-weithiwr ac yn peri risg i ni," meddai.

"Mi o’n i wirioneddol yn gwneud fy ngorau i amddiffyn fy hun a fy nghyd-weithiwr.

“Y bwriad oedd i dynnu ei sylw, roedd poen hefyd yn bosibilrwydd.”

Fe ofynnodd Mr Edwards: “Oeddech chi’n gwybod y bydd [ei daro] yn cael effaith sylweddol?”

“Roedd potensial am hynny, ac roeddwn yn meddwl mai dyna’r opsiwn gorau ar yr adeg,” atebodd Mr Williams.

“Oeddech chi wedi colli eich tymer ac yn ymosod ar Mr Clark?” gofynnodd Mr Edwards

“Na,” atebodd Mr Williams. “Nid y bwriad oedd anafu Mr Clark.”

Tystiolaeth ail swyddog

Cafodd PC Einir Williams hefyd ei galw i’r llys fel tyst. Dywedodd ei bod wedi teimlo’n “ofnus” yn ystod yr ymgais i arestio Mr Clark.

“Fe ofynnais i am ei ffôn, ac y byswn i’n ei roi yn ôl, ond wnaeth o ddim ei roi i mi ac fe wnaeth o ein gwrthsefyll o’r adeg yna," meddai.

“Doeddwn i ddim yn gallu gweld unrhyw beth oedd wedi digwydd oedd wedi achosi poen iddo.

“Fe wnaeth Mr Clark wthio yn fy erbyn i gyda digon o rym, gan achosi i mi ddisgyn i’r llawr. Mi nes i rolio yn ôl ac mi o’n i'n ofnus oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai’r cam nesaf hefo’r ddau ohonom ar y llawr.

“Roedd yn cicio allan, yn gwneud ei gorff yn anhyblyg (rigid). Ro’n o’n trio siarad hefo fo i wneud iddo bwyllo a stopio gwrthsefyll. Doedd hynny ddim yn gweithio.

"Ro’n i’n ofn dros fy nghyd-weithiwr a finnau.”

Wrth gael ei groesholi, dywedodd Ms Williams ei bod wedi gweld Mr Williams yn symud i roi ergydion tuag at Mr Clark. Ond am ei bod yn ceisio atal coesau Mr Clark wrth orwedd ar ei gefn, nid oedd wedi gweld unrhyw ergydion yn cysylltu â’i ben.

Mae’r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.