Sean Lynn yn enwi carfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad
Mae Prif Hyfforddwr newydd tîm Menywod Cymru, Sean Lynn, wedi enwi ei garfan gyntaf ar gyfer y Chwe Gwlad.
Y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain y garfan unwaith eto, gyda’r mewnwr Keira Bevan a’r blaenasgellwr Alex Callender yn ddirprwyon iddi.
Ni fydd y prop dylanwadol, Sisilia Tuipulotu yn y garfan eleni, ar ôl iddi gael llawdriniaeth ar ei llinyn y gar fis diwethaf.
Fe fydd Lynn, sydd yn hyfforddwr ar glwb Hartpury/Caerloyw, yn arwain ei glwb yn rownd derfynol Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Sul, gan obeithio ennill y bencampwriaeth am y trydydd tro o’r bron.
Bydd yna yn gadael y clwb er mwyn ymuno â Chymru i baratoi am y bencampwriaeth, sydd yn cychwyn gyda gêm oddi cartref yn erbyn Yr Alban ar 22 Mawrth.
Bydd y Cymry yn herio Lloegr yn y Stadiwm Principality yng ngêm gartref cyntaf Lynn, ar 29 Mawrth, gyda dros 10,000 o docynnau eisoes wedi eu gwerthu - sef y dorf fwyaf erioed ar gyfer gêm brawf menywod Cymru pan nad yw’r dynion wedi chwarae yn yr un lleoliad ar yr un dydd.
Inline Tweet: https://twitter.com/WelshRugbyUnion/status/1900574176248733870
Mae Lynn wedi dewis carfan sy’n gymysgedd o brofiad a thalent ifanc ac addawol - sydd wedi cael y cyfle i aeddfedu.
Cafodd capten Gwalia Lightning, Bryonie King, ymgyrch amlwg yn yr Her Geltaidd yn ddiweddar ac mae’r prop Maisie Davies a’r clo Alaw Pyrs ymhlith ei chyd-chwaraewyr sy’n ymuno gyda hi yn y garfan genedlaethol.
Mae capten Brython Thunder, Natalia John, hefyd wedi ei chynnwys yng nghynlluniau Sean Lynn ar gyfer y Chwe Gwlad. Felly hefyd Rosie Carr a’r canolwr cydnerth Hannah Bluck.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn: “Mae cyhoeddi’r garfan hon yn eiliad bwysig a chyffrous i’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff wrth i’n teulu rygbi ddod at ein gilydd ar gyfer ein hymgyrch ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025.
“Mae gennym gymysgedd dda yn y garfan - gan gynnwys y 15 chwaraewr rhyngwladol gymrodd ran yn rownd Gyn-derfynol Uwch Gynghrair Lloegr.
"Ar y llaw arall mae gennym chwaraewyr ifanc a chyffrous sydd ar ddechrau eu taith ryngwladol i bob pwrpas – ond mae llawer iawn o’u perfformiadau nhw yn yr Her Geltaidd wedi dal y llygad heb amheuaeth.
“Byddwn yn dod at ein gilydd fel carfan gyflawn ddydd Llun – sydd ddim yn rhoi llawer iawn o amser i ni baratoi i deithio i’r Alban ar gyfer ein gêm agoriadol o’r Bencampwriaeth ar yr 22ain o’r mis."
Carfan Menywod Cymru
Blaenwyr: Maisie Davies (Gwalia Lightning), Gwenllian Pyrs (Sale), Abbey Constable (Caerlŷr), Molly Reardon (Gwalia Lightning), Rosie Carr (Brython Thunder), Kelsey Jones (Hartpury/Caerloyw), Carys Phillips (Harlequins), Donna Rose (Saraseniaid) Jenni Scoble (Gwalia Lightning), Abbie Fleming (Harlequins), Alaw Pyrs (Gwalia Lightning), Natalia John (Brython Thunder), Gwen Crabb (Hartpury/Caerloyw), Bryonie King (Gwalia Lightning), Georgia Evans (Saraseniaid), Kate Williams (Hartpury/Caerloyw), Bethan Lewis (Hartpury/Caerloyw), Alex Callender (Harlequins), Gwennan Hopkins (Gwalia Lightning), Alisha Butchers (Bryste)
Olwyr: Keira Bevan (Bryste), Sian Jones (Gwalia Lightning), Meg Davies (Hartpury/Caerloyw), Ffion Lewis (Bryste), Lleucu George (Hartpury/Caerloyw), Lisa Neumann (Harlequins), Kayleigh Powell (Harlequins), Robyn Wilkins (Sale), Hannah Jones (Hartpury/Caerloyw - Capten), Hannah Bluck (Brython Thunder), Kerin Lake (Gwalia Lightning), Carys Cox (Ealing), Courtney Keight (Bryste), Nel Metcalfe (Hartpury/Caerloyw), Jenny Hesketh (Bryste), Catherine Richards (Gwalia Lightning), Jasmine Joyce (Bryste).
Llun: Capten Cymru, Hannah Jones (Asiantaeth Huw Evans)