
Caernarfon: 'Pryder' wedi i graffiti ymddangos mewn sawl rhan o'r dref
Mae cynghorydd wedi dweud ei fod yn pryderu wedi i sawl achos o graffiti ymddangos ar nifer o waliau ac adeiladau yng Nghaernarfon nos Fawrth.
Fe gafodd nifer o waliau'r brif arhosfa fysiau yn y dref eu difrodi, a hefyd wal yn ardal Twthill ac un arall yng nghanol y dref.
Fe wnaeth graffiti gael ei ysgrifennu ar ochr fan hefyd.
Y gred yw bod y graffiti wedi ymddangos mewn ymateb i negeseuon am unigolion o'r dref ar gyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Cynghorydd Canol Tref Caernarfon, Olaf Cai Larsen, ei fod yn "hynod o anffodus ac yn resyn o beth fod y ffasiwn beth wedi mynd i fyny.
"Rydw i'n gobeithio y bydd y graffiti yn cael ei symud a'r heddlu yn gweithredu.
"Rydw i hefyd yn pryderu am yr amgylchiadau a arweiniodd at y graffiti yn mynd i fyny."
Cafodd y graffiti oedd wedi ymddangos ar yr arhosfa fysiau ei orchuddio gan baent yn ddiweddarach dydd Mercher.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Heddlu'r Gogledd am ymateb.