Newyddion S4C

Wrecsam: Beiciwr modur wedi ei anafu’n ddifrifol ar ôl gwrthdrawiad rhwng pum cerbyd

12/03/2025
Bronington

Mae beiciwr modur wedi ei anafu’n ddifrifol ar ôl gwrthdrawiad rhwng pum cerbyd ar gyrion Wrecsam.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A495, ger Bronington, tua 11.45 ddydd Llun.

Roedd yn cynnwys beic modur Honda, BMW 120D M Sport, BMW 320i M Sport, Renault Clio, a Vauxhall Corsa.

Cafodd y beiciwr modur ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol.

Meddai’r Swyddog Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol, DC Donna Vernon: “Rydym yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A495 adeg y gwrthdrawiad, ac a allai fod â lluniau camera cerbyd a allai fod o gymorth gyda’n hymchwiliad, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â swyddogion drwy’r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 25000199323.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.