Newyddion S4C

Tariffau Trump: Yr EU yn ymateb a’r DU yn datgan ‘siom’

EU / Trump / Von der Leyen

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi ymateb gyda’u tariffau eu hunain wedi i Donald Trump gyhoeddi tariffau byd-eang ar ddur ac alwminiwm, tra bod y DU wedi datgan “siom” gyda'r penderfyniad.

Bydd treth o 25% ar ddur ac alwminiwm sy’n mynd i’r Unol Daleithiau o ddydd Mercher, meddai llywodraeth y wlad.

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cyhoeddi y bydden nhw’n codi mesurau gwerth €26bn (£21.9bn, $28.3bn) ar gynnyrch o America mewn ymateb i’r tariffau.

Fe fydd y gwaharddiad presennol gan y Comisiwn Ewropeaidd ar dariffau ar gynnyrch o’r UDA yn dod i ben ar 1 Ebrill, gyda phecyn o wrth fesurau ar gynnyrch o America yn dod i rym erbyn canol mis Ebrill.

“Rydym yn edifarhau’r mesurau yma’n fawr,” dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn.

“Trethi yw tariffau. Maen nhw’n ddrwg i fusnes, ac yn waeth fyth i’r cyhoedd. Mae’r tariffau yma yn amharu ar gadwyni cyflenwi. Maen nhw’n dod ag ansicrwydd i’r economi.

“Mae’n rhaid i’r Undeb Ewropeaidd weithredu er mwyn diogelu busnesau a phobl. Mae’r gwrth fesurau yma yn rhai cryf ac yn addas.”

Wrth ymateb i dariffau America, dywedodd Ysgrifennydd Masnach y DU, Jonathan Reynolds y byddai’r “llywodraeth yn cadw pob opsiwn ar y bwrdd”, mewn ymateb i’r penderfyniad “siomedig” gan yr Arlywydd Trump.

Dywedodd fod y DU mewn trafodaethau dros gytundeb economaidd ehangach gydag America er mwyn hepgor tariffau ychwanegol.

“Yn y cyfamser rydym yn parhau i fod yn gadarn yn ein cefnogaeth i ddiwydiant y DU,” meddai Jonathan Reynolds AS.

“Mae'r llywodraeth hon yn gweithio gyda chwmnïau sy'n cael eu heffeithio heddiw, ac rwy'n cefnogi cais y diwydiant i'r Awdurdod Rhwymedïau Masnach (Trade Remedies Authority) i ymchwilio i ba gamau pellach a allai fod yn angenrheidiol i ddiogelu cwmnïau yn y DU.

“Byddaf yn parhau gyda thrafodaethau agos a chynhyrchiol â’r Unol Daleithiau i bwyso ar yr achos dros fuddiannau busnes y DU.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.