Newyddion S4C

Dean Windass: 'Dwi'n ofni'r dyfodol' wedi diagnosis dementia

Dean Windass (BBC Newsnight)
Dean Windass

Mae'r cyn-bêl-droediwr Dean Windass yn dweud ei fod yn ofni'r dyfodol ar ôl iddo dderbyn diagnosis o ddementia.

Cafodd Mr Windass ddiagnosis o ddementia'r llynedd ac fe rannodd y newyddion ym mis Ionawr.

Mewn cyfweliad gyda BBC Newsnight mae'n dweud ei fod yn ceisio peidio gadael i'r salwch gael effaith arno, ond bod hynny'n anodd.

"Dwi'n crio bob hyn a hyn," meddai.

"Mae'n codi ofn arnai. Dydw i ddim yn siŵr beth fydd yn digwydd. Efallai byddai'n gwneud cyfweliad mewn 10 mlynedd a fydd y stori'n un wahanol."

Mae gan Dean Windass ddementia cam dau.

Cam dau dementia yw'r camau cynnar yn y salwch lle mae pobl o bosib yn dechrau anghofio rhai atgofion.

Dywedodd Windass ei fod yn "emosiynol" wrth wneud profion am y salwch, ac er nad yw'n gwybod sut ddyfodol sydd o'i flaen mae'n ceisio byw bywyd arferol.

Image
Dean Windass yn chwarae i Hull City yn 2008.
Dean Windass yn chwarae i Hull City yn 2008.

"Does dim byd gallai wneud. Ti methu mynd yn ôl mewn amser, felly mae rhaid i ti ddelio gyda fe.

"Gobeithio, yn y pump, 10 mlynedd nesaf fydd e ddim yn datblygu. Efallai fydd e ac efallai fydd e ddim.

"Felly, rwyt ti'n codi yn y bore a ti'n byw. Ti'n ceisio byw bywyd arferol."

Roedd Windass yn rhan o garfan Bradford enillodd ddyrchafiad i'r Uwch Gynghrair yn 1999. Fo sgoriodd unig gôl Hull City hefyd wrth iddyn nhw gyrraedd y gynghrair trwy'r gemau ail-gyfle yn 2008.

Fe chwaraeodd hefyd i dimau Aberdeen, Oxford United, Middlesborough a Sheffield United yn ei yrfa gan sgorio 230 0 goliau.

"Os fydden nhw wedi dweud [tra bod fi dal yn chwarae] mewn tua 10 mlynedd efallai bydden ni efo rhyw fath o ddementia, bydden i wedi dweud 'wel dydw i ddim yn mynd i benio'r bêl yna'," meddai Windass.

"Fydden ni ddim wedi gwneud hynny cymaint mewn sesiynau ymarfer... bydden i wedi meddwl dwywaith."

Helpu eraill

Yn ei gyfweliad teledu cyntaf ers y diagnosis, fe siaradodd Windass yn onest am effaith y newyddion ar ei iechyd meddwl a'i deulu.

Mae'n credu bod ei ddiagnosis o ganlyniad uniongyrchol i benio’r bêl dro ar ôl tro ac mae'n pryderu am ei ddau fab, Josh a Jordan sydd hefyd yn bêl-droedwyr.

"Dydw i ddim eisiau iddyn nhw boeni oherwydd ar y funud rwy'n iawn," meddai. 

Fe wnaeth astudiaeth gan Brifysgol Glasgow yn 2019 ganfod fod cyn-bêl-droedwyr proffesiynol bron deirgwaith a hanner yn fwy tebygol o gael diagnosis o ddementia na’r boblogaeth gyffredinol.

Mae Windass eisiau codi ymwybyddiaeth o ddementia a chael undeb chwaraewyr y Gymdeithas Pêl-droedwyr Proffesiynol (PFA) i gynnig mwy o gefnogaeth i chwaraewyr sydd yn cael eu heffeithio a'u teuluoedd.

"Yr un peth dwi'n caru am fy hun yw fy mod i'n ceisio helpu cymaint o bobl ag y gallaf mewn unrhyw ffordd," meddai.

"Y rheswm pam rydyn ni wedi gwneud hyn [cyfweliad] yw i helpu teuluoedd, oherwydd efallai y bydd fy nheulu i angen help ymhen 10 neu 15 mlynedd. Felly dwi ddim eisiau iddyn nhw ddioddef hefyd."

Prif lun: BBC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.