Newyddion S4C

Carcharu pedoffeil oedd yn targedu plant tra’n gweithio yn ffair Ynys y Barri

10/03/2025
Carl Lintern

Mae pedoffeil oedd yn targedu plant mor ifanc ag 11 oed wrth weithio yn ffair Ynys y Barri wedi ei garcharu am dair blynedd.

Roedd Carl Lintern, 42, yn gweithio ym Mharc Pleser Ynys y Barri yn haf 2023.

Roedd wedi prynu bwyd, diodydd meddwol, sigaréts a theganau meddal ar gyfer plant yno.

Daeth i sylw Heddlu De Cymru am y tro cyntaf ar ôl i rieni un o’i ddioddefwyr ei herio yn ei weithle.

Fe dynnon nhw lun o Carl Lintern a’i gyflwyno i heddwas.

Fe wnaeth Tîm Atal Camfanteisio ar Blant Heddlu De Cymru lansio ymchwiliad a darganfod bod Lintern wedi meithrin perthynas amhriodol â’r dioddefwr drwy brynu sigaréts a rhoi tocynnau ffair a theganau meddal iddi, cyn cymryd mantais rywiol ohoni.

Cafodd ei arestio yn y ffair ac yn fuan wedyn, fe wnaeth swyddogion ddarganfod tystiolaeth o fwy o gamdriniaeth yn ymwneud â dioddefwyr pellach.

O ganlyniad i’r ymchwiliad datgelodd Heddlu De Cymru nifer o ddioddefwyr eraill yr oedd Lintern wedi cymryd mantais ohonyn nhw drwy anfon delweddau anweddus ohono’i hun atyn a’u stelcian ar y cyfryngau cymdeithasol.

Byddai'n aml yn targedu ei ddioddefwyr yn y ffair lle byddai'n gweithio gan roi anrhegion iddyn nhw. Yna fe fyddai'n ychwanegu ei hun at eu cyfrifon Snapchat cyn eu blacmelio i anfon delweddau personol o’u hunain.

Pan ofynnodd y dioddefwyr iddo adael llonydd iddyn nhw, roedd yn bygwth wedyn rhannu’r ffotograffau personol fel modd o’u rheoli. 

'Bygythiad'

Pan gafodd ei holi am ei gamdriniaeth fe wadodd iddo gael cyswllt rhywiol gyda’r dioddefwyr. Honnodd fod y ffair wedi troi yn ‘Glwb cefnogwyr Carl’ a’i fod yn ‘ceisio helpu’r merched’. 

Pleidiodd Carl Lintern, o Ffordd Barrasford, Cramlington, yn euog i ddau gyhuddiad o fod â delweddau anweddus o blentyn yn ei feddiant ac o fygwth rhannu llun neu ffilm o natur bersonol.

Plediodd yn ddieuog i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol ym mhresenoldeb plentyn o dan 13 oed, a dau gyhuddiad o ymosodiad yn rhywiol ar fenyw, ond fe'i cafwyd yn euog yn dilyn achos llys.

Fe gafodd ei garcharu am dair blynedd ac wyth mis yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Robyn Allen: “Defnyddiodd Carl Lintern ei swydd yn y ffair fel ffordd o gwrdd â meithrin perthynas amhriodol â’i ddioddefwyr bregus. 

“Rwy'n gobeithio y gall y dioddefwyr a'u teuluoedd gael rhywfaint o gysur o wybod ei fod bellach yn y carchar lle nad yw bellach yn fygythiad i eraill.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.