Newyddion S4C

Doniau gitarydd ifanc o Wrecsam yn disgleiro ar Britain's Got Talent

Ollie ITV

Fe lwyddodd bachgen 11 oed o Wrecsam i wneud cryn argraff ar feirniaid a chynulleidfa rhaglen Britain's Got Talent ar ITV nos Sadwrn.

Dechreuodd Olly Pearson chwarae'r gitâr pan oedd yn saith oed, gyda'i daid yn ei ddysgu.

Roedd ei daid yn gwylio gefn llwyfan gyda'r cyflwynwyr Ant & Dec wrth i Ollie chwarae casgliad o ganeuon ar ei gitâr gan fandiau Queen, Van Halen ac AC/DC.

Ymysg y beirniaid i gael eu plesio oedd Amanda Holden, abwysodd ei chloch aur oedd yn galluogi Ollie i fynd i'r rownd nesaf.

Dywedodd beirniad arall, Simon Cowell, mai Olly oedd "dyfodol cerddoriaeth roc".

Cyn ei berfformiad fe ddywedodd Olly ei fod yn nerfus am berfformio o flaen cymaint o bobl.

Llun: ITV

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.