
Chwe Gwlad: Cymru'n colli 35-29 yn erbyn yr Alban
Chwe Gwlad: Cymru'n colli 35-29 yn erbyn yr Alban
Colli oedd hanes Cymru yn Murrayfield brynhawn dydd Sadwrn, a hynny o 35 i 29.
Fe ddangosodd y Cymry gymeriad i frwydro'n ôl yn y diwedd ar ôl perfformiad ymosodol gan yr Alban.
Roedd yr her yn gyfle i'r Cymry osod eu stamp ar y bencampwriaeth ar ôl colli yn erbyn Iwerddon, Ffrainc a'r Eidal dan yr hyfforddwr dros dro newydd Matt Sherratt.
Dim ond un gêm oedd yr Alban wedi ei ennill yn y bencampwriaeth hyd yma hefyd felly roedd gan y ddau dîm ddigon i'w brofi brynhawn dydd Sadwrn yng Nghaeredin.
Dan haul braf y brifddinas, Cymru oedd y cyntaf i sgorio yn y munudau agoriadol, gyda Gareth Anscombe yn hawlio pwyntiau gyda chic gosb rhwng y pyst.

Byr iawn oedd y fantais - gyda'r Alban yn taro'n ôl yn syth gydag ymosodiad cyntaf y gêm - cais i Blair Kinghorn wedi i Gymru fethu arafu'r crysau gleision.
Trosiad i Finn Russell, ac roedd yr Alban ar y blaen o 7-3, gydag ychydig dros bum munud ar y cloc.
Aeth pethau o ddrwg i waeth gyda'r Alban yn ymestyn y fantais yn fuan wedyn o 14-3 - Tom Jordan yn dangos ei ddoniau y tro hwn. Daeth Finn Russell i sicrhau bod y bwlch yn cynyddu gyda throsiad.
Wedi chwarter cyntaf y gêm, yr Alban oedd yn rheoli. Ond y cochion oedd y nesaf i durio - ymateb gwych wedi cyfnod dan bwysau a Blair Murray yn hawlio'r pwyntiau gyda chais. Fe fethodd Anscome a throsi - felly'r sgôr wedi 25 munud oedd 14-8.
Ond unwaith eto, byr iawn oedd momentwm y Cymry, gyda'r Alban yn taro'n ôl gyda trydydd cais yn syth - Darcy Graham yn croesi y tro hwn a Finn Russell unwaith eto'n llwyddo rhwng y pyst. 21-8 i'r Alban.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru gyda naw munud i fynd o'r hanner cyntaf gyda WillGriff John yn derbyn cerdyn melyn am drosedd ar Ben White.
Yn fuan wedyn fe ddaeth pedwerydd cais i'r Alban ymysg annibendod llwyr i'r Cymry oedd wedi codi pob rheolaeth ar y gêm. Tom Jordan yn casglu pêl rydd ac yn croesi am gais arall - a Russell eto'n trosi.
28-8 oedd y sgor ar yr hanner ac roedd yn rhaid i Gymru osod eu stamp yn y 40 munud oedd yn weddill.
Ail Hanner
Dechreuodd yr ail hanner fel diwedd yr hanner cyntaf - ac o fewn munudau'n unig roedd yr Alban wedi sgorio cais eto - gyda Blair Kinghorn yn croesi'r llinell gais am yr eildro ddydd Sadwrn, gyda Russell yn llwyddo rhwng y pyst. Yr Alban 35-8 Cymru.
Daeth llygedyn o obaith i Gymru ar yr awr - Ben Thomas yn turio wrth droed y pyst ar ôl rhwygo rhwng y bwlch amddiffynnol i sicrhau ei ail gais rhyngwladol.
Jarrod Evans lwyddodd i sicrhau'r pwyntiau rhwng y pyst i Gymru gan adael bwlch o ugain pwynt - Yr Alban 35 - 15 Cymru.
Daeth Evans oddi ar y fainc yn lle Gareth Anscombe ac roedd ei ddylanwad ar y gêm yn amlwg.

Tyfodd dylanwad Cymru wrth i'r hanner fynd yn ei flaen - ac fe ddaeth trydydd cais y prynhawn i'r crysau cochion gan gynnig llygedyn o obaith i'r ymwelwyr.
Teddy Williams y tro hwn yn ymestyn ei freichiau i groesi'r llinell gais - a Jarrod Evans yn trosi. Yr Alban 35-22 Cymru.
Gyda 10 munud yn weddill fe gafwyd cyfnod o amddiffyn gyda llinell gais Cymru dan warchae, a'r ymosod yn ddigyfaddawd.
Gyda llai na phum munud i fynd - roedd gobaith bod Cymru wedi sgorio cais unwaith yn rhagor ar ôl i Faletau redeg i lawr yr asgell chwith a thurio.
Ond chafodd y cais ddim ei ganiatáu o achos trosedd gan Blair Murray.
Cafodd Max Llewelyn ei gais cyntaf i Gymru yn yr eiliadau olaf - a throsiad yn golygu mai 35-29 oedd y canlyniad ar y diwedd
Roedd fflachiadau o obaith o edrych ar yr 80 munud cyflawn, ond yr un hen gân oedd hi i Gymru unwaith eto ar ddiwedd y chwarae - er y frwydr arwrol ar y diwedd.
Fe fydd y crysau cochion yn wynebu Lloegr yng Nghaerdydd mewn wythnos gan obeithio cipio un fuddugoliaeth allan o ymgyrch siomedig arall.