Merthyr: Yr heddlu'n ymateb i 'wrthdrawiad difrifol'
08/03/2025
Mae Heddlu’r De wedi dweud eu bod yn ymateb i “wrthdrawiad difrifol” ym Merthyr Tudful.
Dywedodd y llu bod swyddogion yn bresennol yn yr ardal wedi’r gwrthdrawiad ar Ffordd Aberhonddu fore Sadwrn.
Mae’r ffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad rhwng Stryd y Nant a Ffordd Vulcan ac mae disgwyl iddi barhau ar gau am gyfnod, meddai'r heddlu.
Maen nhw’n annog pobl i osgoi’r ardal gan ddweud y dylai gyrwyr ddisgwyl oedi ar y ffyrdd yn yr ardal fore dydd Sadwrn.
Llun: Google Maps