Tân yn creu difrod mawr i hen dafarn ym Mhen Llŷn
07/03/2025
Mae tân wedi creu difrod sylweddol i hen dafarn ym Mhen Llŷn nos Iau.
Cafodd tafarn Glyn y Weddw yn Llanbedrog ei difrodi'n sylweddol ac mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Gwener, dywedodd y perchnogion y bydd y dafarn ar gau am gyfnod i ddod o ganlyniad.
Cafodd tri chriw tân eu galw i'r digwyddiad ger Pwllheli, yn teithio i Lanbedrog o Bwllheli, Nefyn a Chaernarfon.
Roedd swyddogion tân yno yn ymateb erbyn 00.55.
Cafodd dau uwch swyddog eu galw i helpu gyda rheoli'r digwyddiad ac fe wnaeth y criwiau adael yr ardal erbyn 06:27.
Bydd ymchwiliad y gwasanaeth tân i geisio dod o hyd i amgylchiadau'r tân yn parhau ar y safle ddydd Gwener.