Yr Athro Siwan Davies yn ennill Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod y Garreg Las
Bydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod y Garreg Las yn cael ei chyflwyno i'r Athro Siwan Davies o Brifysgol Abertawe.
Mae’r Athro Davies yn cael ei chydnabod am ei chyfraniad eithriadol i ymchwil wyddonol, addysg a chyfathrebu gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r fedal yn cael ei rhoi i anrhydeddu unigolion sydd wedi creu argraff ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am y tro cyntaf eleni, mae’r fedal yn cael ei chyflwyno er cof am Dr Glyn O Phillips, enillydd cyntaf y fedal yn 2004.
Bydd yr Athro Davies yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni yn yr Eisteddfod yn Llantwd ar ddydd Iau 6 Awst.
'Anrhydedd'
Yn wreiddiol o Drefdraeth, mae'r Athro Davies yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol ym maes daearyddiaeth ffisegol a newid hinsawdd.
Mae hi hefyd wedi chwarae rôl flaenllaw wrth ddatblygu addysg a gwaith ymchwil cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, gan hyrwyddo cyfleoedd i fenywod mewn gwyddoniaeth ynghŷd â’i gwaith academaidd.
Mae hi’n angerddol dros gyfathrebu gwyddoniaeth mewn ffordd sy’n hygyrch, ac mae wedi bod yn rhan o sefydlu SwanStemWomen, menter sy’n cynnig mentora, hyfforddiant a chyfleoedd rhwydweithio i gefnogi menywod mewn STEM, sef pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Davies bod derbyn y fedal yn "anrhydedd".
"Rwyf wedi edmygu'r rhai sydd wedi'i hennill o'm blaen, ac mae ymuno â nhw yn fraint enfawr," meddai.
"Mae ei derbyn yn Eisteddfod y Garreg Las, yn yr ardal lle cefais fy magu, yn ei gwneud yn fwy arbennig byth."
Ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, cwblhaodd radd Meistr a PhD yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain.
Ymunodd â Phrifysgol Abertawe yn 2004, cafodd gadair bersonol yn 2012 ac fe'i penodwyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor Ymchwil yn 2026.
Yn ogystal â'i gwaith ymchwil rhyngwladol ar newid hinsawdd a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, mae wedi goruchwylio ymchwilwyr newydd, a gwasanaethu ar Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae hi hefyd yn wyneb cyfarwydd ar y cyfryngau, gan gyflwyno gwyddoniaeth hinsawdd i gynulleidfaoedd eang.
