Newyddion S4C

Ffosil deinosor Jurasig wedi’i dynnu o graig ar ôl hanner canrif

07/03/2025
Deinosaur Elgol

Mae ffosil deinosor Jurasig wedi’i dynnu o waelod clogwyn ar Ynys Skye yn yr Alban.

Cafodd y ffosil deinosor Elgol ei ddarganfod fwy na 50 blynedd yn ôl, ac yn wreiddiol roedd ymchwilwyr yn credu y byddai’n rhy anodd i’w dynnu o'r graig. 

Ond gyda chymorth tîm arbenigol o Ganada, a chriw o Deithiau Cwch Bella Jane yn Elgol, roedd y dasg yn bosib.

Bellach, mae gwyddonwyr yn gobeithio am fwy o ddarganfyddiadau ar yr ynys.

'Gwerth chweil'

Cafodd y ffosil deinosor Elgol ei ddarganfod yn 1973 ger Elgol yn ne ynys Skye. 

Mae hyn yn golygu mai dyma yw'r ffosil deinosor cynharaf yn yr Alban ar gofnod.

Mae’n cael ei gadw bellach mewn darnau, ond mae’r ymchwilwyr wedi adnabod rhannau o’i asgwrn cefn, asennau ac asgwrn y glun.

O ganlyniad, dyma’r sgerbwd deinosor mwyaf cyflawn i gael ei ddarganfod yn yr Alban hyd heddiw.

Dywedodd Dr Pancrioli, oedd yn arwain y tîm ymchwil: “Roedd hwn yn echdyniad heriol iawn. I ddweud y gwir, roeddem ni’n meddwl yn flaenorol ei bod hi’n rhy anodd casglu’r ffosil, ond roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn i’w astudio.

“Gwnes i lwyddo i berswadio’r tîm i roi cynnig arni. Fe wnaeth hi gymryd llawer o waith caled gan lawer o bobl, ond fe wnaethom ni e.

“O’r diwedd gallwn ni gadarnhau a chyhoeddi’r deinosor cynharaf a gofnodwyd yn yr Alban a’r mwyaf cyflawn, ac mae hynny’n ei gwneud hi werth chweil.”

'Her i’w adnabod'

Dywedodd yr Athro Susie Maidment, o Amgueddfa Hanes Naturiol a Phrifysgol Birmingham: “Roedd y deinosor Elgol yn her i’w gasglu, ac wedi profi i fod yn fwy o her i’w adnabod. Mae rhai rhannau o’r corff yn dangos y gallai fod yn ornithopod, sef grŵp o ddeinosoriaid sy’n bwyta planhigion sy’n cael eu hadnabod orau o’r cyfnod Cretasig.

“Byddai’r sbesimen hwn, fodd bynnag, yn barod wedi bod yn ffosil erbyn bod ornithopodau mwy adnabyddus fel Iguanodon a Hypsilophodon yn crwydro’r ddaear.

“Mae ymchwil diweddar i ffosiliau Elgol wedi datgelu ecosystem amrywiol o anifeiliaid Jwrasig Canol sydd wedi’u cadw’n eithriadol, ac rwy’n sicr bod mwy o ddarganfyddiadau cyffrous i ddod.”

'Uchafbwynt i’r cylchgrawn'

Mae’r disgrifiad newydd o’r deinosor Elgol wedi’i gyhoeddi yn Nhrafodion Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd Cymdeithas Frenhinol Caeredin.

Dywedodd ei olygydd, yr Athro Rob Ellam: “Hoffwn i longyfarch Dr Panciroli a’i dîm rhyngwladol o gyd-awduron.

“Mae cael y darn eithriadol hwn o waith ar y deinosor Elgol – ffosil deinosor cynharaf a mwyaf cyflawn yr Alban –  yn nhudalennau Trafodion yn uchafbwynt i’r cylchgrawn.

“Mae’n fraint i allu cyhoeddi astudiaeth o’r radd flaenaf gafodd ei arwain o’r Alban sy’n darlunio pam fod y gymuned palaeontegol yr Alban yn cael ei pharchu’n fawr.”

'Ychwanegiad rhyfeddol'

Mae darganfyddiadau Jwrasig eraill o Skye yn cynnwys disgrifiad o famaliaid hen ac ifanc o’r un rhywogaeth, Krusatodon, a ddatgelodd fod y mamaliaid yn tyfu’n arafach na mamaliaid heddiw, a ffosil pterosaur Jwrasig mwya’r byd, Dearc sgiathanach.

Yn ôl Stig Walsh o Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, “Mae hwn yn ychwanegiad rhyfeddol i’r set o ddarganfyddiadau Jwrasig o Ynys Skye sy’n tyfu’n gyflym, sy’n ein galluogi i ddysgu mwy a mwy am ecosystem gyfoethog y cyfnod.

“Rydym wedi gwybod ers tro bod deinosoriaid wedi bod yno, yn fwyaf amlwg o’r olion traed enwog yn An Corran, Brother’s Point a Duntulm ac esgyrn unigol, ond mae’n gyffrous i weld sgerbwd mwy cyflawn.

“Rydym wrth ein boddau i’w ychwanegu i’r darganfyddiadau anhygoel eraill yn y casgliad cenedlaethol.”

Llun: Felix Gottwald/Wikipedia

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.