Rhagflas o gemau nos Wener y Cymru Premier JD
Gyda’r posibilrwydd y gall y bencampwriaeth gael ei hennill yr wythnos hon, mae’r frwydr ar waelod y tabl yn parhau.
Fe fydd y chwech uchaf yn y gynghrair yn chwarae ddydd Sadwrn tra bod y chwech isaf yn chwarae nos Wener.
Mae pethau yn dynn ar waelod y tabl gyda dim ond un pwynt yn gwahanu’r Drenewydd a Llansawel yn y frwydr i osgoi’r cwymp.
Mae Aberystwyth bellach wyth pwynt yn brin o ddiogelwch y 10fed safle, ac felly mae’r Gwyrdd a’r Duon yn agos at y dibyn cyn teithio i wynebu Cei Connah nos Wener.
CHWECH ISAF
Cei Connah (8fed) v Aberystwyth (12fed) | Nos Wener – 19:45
Brwydrodd Aberystwyth yn ddewr yn erbyn Y Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG nos Wener diwethaf, ac er mae colli oedd eu hanes bydd Antonio Corbisiero yn croesi bysedd y gall ei chwaraewyr berfformio cystal yn y gynghrair a cheisio dianc o’r dyfnderoedd.
Mae Aberystwyth mewn sefyllfa peryglus eithriadol, wyth pwynt o dan diogelwch y 10fed safle gyda dim ond chwe gêm ar ôl i’w chwarae.
Mae’r clwb o Geredigion wedi colli chwech o’u saith gêm ddiwethaf ac wedi methu a sgorio yn eu tair gornest ddiwethaf.
Bydd Cei Connah wedi eu hysgogi yn dilyn eu canlyniadau diweddar, yn ennill tair allan o bedair a chau’r bwlch ar Y Barri i bum pwynt yn y ras am y 7fed safle.
Dyw Aberystwyth m’ond wedi colli un o’u pedair gêm flaenorol yn erbyn Cei Connah, a’r Gwyrdd a’r Duon oedd yn dathlu wedi eu gornest ddiwethaf ar ôl ennill o 2-1 ar Gae-y-Castell yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG.
Record cynghrair diweddar:
Cei Connah: ͏ ❌❌✅❌✅
Aberystwyth: ͏❌❌✅❌❌
Llansawel (10fed) v Y Barri (7fed) | Nos Wener – 19:45
Mae Llansawel mewn sefyllfa pryderus, dim ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp gyda chwe gêm ar ôl i’w chwarae.
Mae diffyg cysondeb wedi amharu ar ymgyrch y Cochion gan nad ydyn nhw wedi ennill dwy gêm yn olynol drwy gydol y tymor er iddyn nhw guro clybiau fel Y Seintiau Newydd, Pen-y-bont, Met Caerdydd a Chei Connah.
Roedd Y Barri’n ymddangos yn gyfforddus yn y 7fed safle cyn eu colled yn erbyn Cei Connah bythefnos yn ôl, ond bydd y Dreigiau yn edrych dros eu ‘sgwyddau erbyn hyn gyda’r bwlch wedi cau i bum pwynt.
Ar ôl sgorio yn ei ddwy gêm ddiwethaf, bydd blaenwr Y Barri, Ollie Hulbert yn awyddus i ychwanegu at ei 10 gôl gynghrair er mwyn dringo i’r brig yn y ras am yr Esgid Aur.
Di-sgôr oedd hi’n y gêm ddiwethaf rhwng y timau ar nos Calan, ond fe enillodd Y Barri o 3-1 yn eu gêm gartref yn erbyn Llansawel ym mis Hydref.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ✅➖❌✅❌
Y Barri: ➖✅✅➖❌
Y Drenewydd (11eg) v Y Fflint (9fed) | Nos Wener – 19:45
Wedi rhediad truenus o 14 o gemau heb fuddugoliaeth roedd Y Drenewydd yn dathlu o’r diwedd ar ôl curo Aberystwyth bythefnos yn ôl yn eu gêm ddiwethaf.
Honno oedd buddugoliaeth gyntaf Callum McKenzie ers cael ei benodi’n reolwr ar y Robiniaid, a thriphwynt cyntaf Y Drenewydd ers curo Caernarfon ym mis Hydref.
Mae angen mynd hyd yn oed ymhellach yn ôl ar gyfer buddugoliaeth gartref ddiwethaf Y Drenewydd, ac hynny yn erbyn Met Caerdydd ar 13 Medi.
Ond dyw’r Fflint heb fod yn tanio oddi cartref chwaith gyda’r Sidanwyr heb ennill oddi cartref ers eu hymweliad diwethaf â Pharc Latham ym mis Hydref gan golli eu saith gêm oddi cartref ers hynny.
Enillodd Y Fflint eu dwy gêm yn erbyn Y Drenewydd yn rhan gynta’r tymor ac roedd hi’n ornest gyffrous ar Barc Latham ym mis Hydref gyda’r Sidanwyr yn ennill o 4-2 gyda chwe sgoriwr gwahanol yn taro ar y noson.
Byddai triphwynt i dîm Lee Fowler yn eu codi wyth pwynt yn glir o’r ddau isaf ac yn gam enfawr tuag at sicrhau eu lle yn y gynghrair am dymor arall.
Record cynghrair diweddar:
Y Drenewydd: ͏ ❌➖❌➖✅
Y Fflint: ͏❌✅❌✅✅
Llun: Cei Connah
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.