Cymdeithas Bêl-droed Cymru i gyflwyno cais ar y cyd i gynnal Cwpan y Byd Menywod 2035
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yn cynllunio i gyflwyno cais ar y cyd gyda chymdeithasau pêl-droed eraill y DU ac Iwerddon i gynnal Cwpan y Byd Menywod 2035.
Fe wnaeth CBDC gyhoeddi eu bod yn rhan o'r cais nos Fercher.
Daw'r cyhoeddiad wedi penderfyniad gan Gyngor FIFA sydd yn argymell y dylai'r gystadleuaeth gael ei chynnal yn Ewrop neu Asia.
Fe fydd y gwledydd yn datgan eu diddordeb yn ffurfiol mewn ychydig wythnosau, gyda disgwyl penderfyniad erbyn diwedd 2026.
Daw hyn wedi llwyddiant tîm merched Cymru wrth gyrraedd Euro 2025.
Wrth drafod y penderfyniad i gynllunio i gyflwyno cais dywedodd prif weithredwr CBDC, Noel Mooney ei fod eisiau i Gymru chwarae rhan mewn Cwpan y Byd Menywod.
"Ar ôl cymhwyso ar gyfer prif gystadleuaeth menywod am y tro cyntaf, mae diddordeb a'r nifer sydd yn chwarae pêl-droed wedi tyfu'n gyflym ar draws Cymru," meddai.
"Rydym yn gobeithio croesawu'r byd i Gymru yn 2035 i barhau i adeiladu'r gêm menywod a merched trwy chwarae prif ran yn cynnal Cwpan y Byd FIFA gorau erioed."
'Ffynnu'
Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: “Mae pêl-droed merched yn ffynnu yng Nghymru, ar ôl i’n tîm gymhwyso ar gyfer eu prif gystadleuaeth gyntaf yn yr Euros yn y Swistir yr haf hwn.
"Rwy’n llwyr gefnogi uchelgais y DU i gynnal twrnamaint 2035, a fydd yn tyfu gêm y merched yng Nghymru hyd yn oed ymhellach drwy roi cyfle i gefnogwyr Cymru gefnogi eu tîm yn nes adref, ar y llwyfan mwyaf.”
Fe fydd Cymru yn rhan o gynnal Euros y dynion yn 2028.
Stadiwm Principality yng Nghaerdydd fydd y llwyfan ar gyfer y gêm agoriadol yn y gystadleuaeth honno.