Newyddion S4C

Port Talbot: Dyn yn yr ysbyty ar ôl ymosodiad honedig mewn ysgol

ITV Cymru 05/03/2025
 St. Joseph's Roman Catholic Comprehensive

Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty ar ôl ymosodiad honedig mewn ysgol ym Mhort Talbot.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i adroddiad o ymosodiad yn Ysgol Gatholig San Joseff yn Aberafan am 09:50 fore Mercher.

Mewn datganiad, dywedodd y llu "bod dyn 51 oed wedi cael ei gludo i'r ysbyty, ond nid yw ei anafiadau yn rhai difrifol na chwaith yn rhai sydd yn peryglu ei fywyd."

Mae dyn 54 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.

Ychwanegodd y llu eu bod yn ymwybodol bod dyfalu o amgylch natur yr ymosodiad.

Maen nhw wedi cadarnhau na chafodd cyllyll ei ddefnyddio yn yr ymosodiad ar dir yr ysgol.

Mewn e-bost dywedodd Pennaeth Cynorthwyol yr ysgol wrth rieni bod digwyddiad wedi bod ond nad oedd unrhyw ddisgyblion yn gysylltiedig ag o.

Dywedodd: “Mae’r mater dan ymchwiliad gan yr heddlu ar hyn o bryd, ac mae’r ysgol yn cydweithio’n llawn gyda’u hymholiadau.

"Rydym yn deall y gall y sefyllfa hon achosi pryder o fewn cymuned ein hysgol, a hoffem eich sicrhau mai lles disgyblion a staff yw ein prif flaenoriaeth."

Dywedodd cynghorydd lleol Aberafan a Rhosydd Baglan, Stephanie Grimshaw, mewn post ar Facebook ei bod yn deall bod rhieni’n poeni, ond cadarnhaodd “nad yw’r ysgol dan glo".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.