Cyllideb Cymru wedi ei chymeradwyo ar ôl taro bargen â Jane Dodds
Cyllideb Cymru wedi ei chymeradwyo ar ôl taro bargen â Jane Dodds
Mae'r Senedd wedi cymeradwyo Cyllideb Cymru 2025-26, ar ôl i weinidogion daro bargen gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Roedd Llafur, sydd â hanner seddi'r Senedd, angen cefnogaeth o leiaf un aelod o'r wrthblaid, er mwyn i'r gyllideb gael ei chymeradwyo.
Pleidleisiodd aelodau'r Senedd o 29-28 o blaid y gyllideb, gydag arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds yn ymatal ar ôl sicrhau ymrwymiadau gwerth dros £100m gan weinidogion.
Yn rhan o'r cytundeb hwnnw, addawodd y llywodraeth wahardd rasio milgwn yng Nghymru, a chafodd £15 miliwn ei neilltuo ar gyfer cynllun peilot i ganiatáu i bobl dan 22 oed deithio ar fysus am £1.
Mae'r Gyllideb yn nodi cyfanswm o £26 biliwn o ymrwymiadau gwariant.
Bydd mwy na £3 biliwn o gyllid cyfalaf yn cael ei neilltuo yn 2025-26 i uwchraddio offer hanfodol yn y GIG ac mewn ysgolion, ac i adeiladu cartrefi newydd, moderneiddio trafnidiaeth gyhoeddus a chefnogi twf economaidd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford: "Mae pasio'r gyllideb hon yn foment arwyddocaol i Gymru - mae'n datgloi cynnydd gwirioneddol mewn cyllid ar gyfer y gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl, ar ôl rhai blynyddoedd anodd iawn.
"Ry’n ni wedi sicrhau pecyn ariannol a fydd yn cryfhau ein GIG, yn lleihau amseroedd aros, yn cefnogi ysgolion ac yn helpu cymunedau ar draws Cymru i ffynnu, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl."
Mae'r prif fuddsoddiadau yn cynnwys:
- Mwy na £600 miliwn yn ychwanegol i'r GIG a gofal cymdeithasol, i gefnogi ymdrechion i leihau amseroedd aros a gwella gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd menywod.
- £50 miliwn yn ychwanegol i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg ar gyfer plant dwy oed ar draws Cymru a chynyddu'r gyfradd fesul awr i £6.40.
- £81 miliwn yn ychwanegol i adeiladu tai cymdeithasol i fynd i'r afael â digartrefedd.
- Hwb o fwy na £100 miliwn i addysg.
- £181.6 miliwn i wella gwasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys moderneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd.
- £15 miliwn i ariannu cynllun tocyn bws unffordd am £1 i bobl ifanc o dan 21 oed.
- Cyllid i greu cynllun trwsio ffyrdd a phalmentydd awdurdodau lleol gwerth £120 miliwn.
- £25 miliwn ar gyfer cronfa gwella ffyrdd i wella'r rhwydwaith ffyrdd strategol a fydd yn ein galluogi i wella 100km o'r rhwydwaith a lleihau ac atal tyllau mewn ffyrdd.
- Cymorth gwerth £335 miliwn i fusnesau, gan gynnwys rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y chweched flwyddyn.
- Sicrwydd o 3.8% o gyllid gwaelodol yn y setliad llywodraeth leol.
Pleidleisiodd Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn y gyllideb nos Fawrth.
Mae Plaid Cymru wedi dweud bod y gyllideb yn “gwadu tegwch i Gymru”.
Dywedodd llefarydd cyllid Plaid Cymru, Heledd Fychan fod Cymru "yn parhau i gael tro gwael o dan Lafur - o wadu £4bn o gyllid HS2" sef y cynllun rheilffordd cyflym rhwng Birmingham a Llundain.
Ychwanegodd bod Llafur yn gwrthod rhoi rheolaeth i Gymru dros ei hadnoddau naturiol ei hun.
Yn ôl ysgrifennydd cyllid Ceidwadwyr Cymru fydd y gyllideb ddim yn "trwsio Cymru".
Mae Sam Rowlands AS yn dweud na fydd y gyllideb chwaith yn "delio gyda blaenoriaethau pobl, gyda chanlyniadau trallodus fel amseroedd aros eithafol a safonau isel addysg sydd yn siarad drostyn nhw eu hunain."
Dywedodd y byddai'r Ceidwadwyr yn cyflwyno Taliad Tanwydd Gaeaf newydd ac yn rhoi "arian ym mhocedi pobl Cymru".
Daw'r gyllideb i rym o fis Ebrill 2025.