Joey Molland, gitarydd Badfinger o Abertawe, wedi marw
Mae Joey Molland, gitarydd y band roc eiconig Badfinger o Abertawe, wedi marw'n 77 oed yn dilyn cyfnod o salwch.
Cafodd Badfinger ei ffurfio yn y ddinas yn 1961, ac er mai cymharol fyr oedd eu cyfnod o lwyddiant, roedd eu caneuon yn ddylanwadol ar nifer o grwpiau poblogaidd ddaeth ar eu hôl.
Aelodau gwreiddiol eraill y band oedd Pete Ham ar y gitâr, Mike Gibbins ar y drymiau, a Tom Evans ar y gitâr fas.
Mewn datganiad ar y cyfrynau cymdeithasol, dywedodd Pete Ham: "Wel, mae'r diwrnod doedden ni byth eisiau ei weld wedi cyrraedd. Bu farw Joey (Joseph Charles) Molland neithiwr, wedi’i amgylchynu gan Mary, ei ddau fab, ac aelodau eraill o’r teulu am 11:39pm.
"Afraid dweud, er fy mod yn gwybod bod y sefyllfa'n ddrwg, roedd yn dal i fod yn sioc i'r system.
"Rwy'n siŵr os ydych chi'n darllen hwn am y tro cyntaf, mae'n sioc i chi hefyd. Diolch, Joey...am gadw cerddoriaeth y band yn fyw cyhyd ac am fod yn ffrind i ni gyd."
Recordiodd Badfinger bum albwm ar label Apple Records rhwng 1968 a 1973, gan werthu hyd at 14 miliwn o recordiau.
Ymysg eu caneuon mwyaf llwddianus oedd 'Come and Get it', 'No Matter What', 'Day after Day' a 'Baby Blue'.
Cafodd eu cân 'Without You' ei recordio gan nifer o artistiaid eraill dros y blynyddoedd, gan ddod i frig y siartiau i Harry Nilsson yn 1972 a Mariah Carey yn 1994.