Newyddion S4C

Ymchwiliad i Gadeirlan Bangor wedi pryderon diogelu ‘difrifol iawn’

Ymchwiliad i Gadeirlan Bangor wedi pryderon diogelu ‘difrifol iawn’

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cynnal ymchwiliad yng Nghadeirlan Bangor yn dilyn pryderon diogelu “difrifol iawn” sydd wedi'u codi.

Mae Archesgob Cymru, y Parchedig Andy John, wedi rhoi gorchymyn am “ymweliad Esgob” yn y gadeirlan.

Mewn llythyr i gyd-weithwyr fis Hydref y llynedd, a ddatgelwyd gan wefan The Church Times, dywedodd fod y materion a godwyd yn rhai “difrifol iawn ac yn rhai brys”.

Dywedodd nad oedd “gweithdrefnau, a luniwyd i helpu a chadw ein heglwysi’n ddiogel, wedi’u dilyn fel y dylent”.

Fe aeth y llythyr ymlaen i ddweud: “Mae’n bosibl y bydd pryderon y dylid bod wedi’u codi neu eu cyfeirio at y Tîm Diogelu Rhanbarthol... heb eu symud ymlaen na’u datgelu.” 

Mewn ail lythyr ar 11 Hydref, fe wnaeth y Parchedig John roi gorchymyn am “ymweliad” yn y gadeirlan, oedd yn cynnwys “ffigyrau profiadol o fewn ar ardal a thu hwnt” a fydd yn asesu “ansawdd bywyd, ffydd, disgyblaeth a diwylliant y gadeirlan”.

Yn ôl y llythyr, mae’r pryderon a godwyd yn ymwneud â materion diogelu ac “uniondeb ffiniau proffesiynol a phersonol rhwng cydweithwyr”.

Mae llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru wedi cadarnhau bod y Parchedig John, sydd hefyd yn gwasanaethu fel Esgob Bangor, wedi dewis "dirprwyo" ymweliad Esgob, yn hytrach na'i gynnal ei hun.

Mae "digwyddiad difrifol" hefyd wedi’i gyfeirio at gomisiwn elusennol gan y Tîm Diogelu Rhanbarthol.

Daeth cadarnhad bod adolygiad diogelu gan elusen Thirtyone:eight, sydd yn arbenigo mewn materion diogelu o fewn sefydliadau eglwysig, hefyd wedi’i gynnal.

Fe fydd adroddiadau o’r ddwy broses yn cael eu datgelu’n gyhoeddus maes o law, yn ôl yr eglwys.

'Hynod bwysig' 
 

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Rydym yn cymryd diogelu o ddifrif.

"Pan gafodd pryderon eu codi gydag Archesgob Cymru, fe gychwynnodd y broses ymweld ac fe gomisiynodd hefyd wasanaethau proffesiynol y sefydliad annibynnol Thirtyone:eight sy'n arbenigo mewn materion diogelu mewn lleoliadau eglwysig.

"Ysgrifennwyd at bawb a oedd yn gysylltiedig â'r Eglwys Gadeiriol ac a fyddai'n rhan o'r broses, gan roi manylion yr ymweliad arfaethedig.

"Wrth gwrs, mae'n hynod bwysig bod y rhai sy'n ymwneud â'r broses yn gallu cymryd rhan mewn amodau cyfrinachedd, felly ni fyddwn yn rhoi rhagor o fanylion am y materion sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd. 

"Fodd bynnag, mae gwaith y tîm ymweld yn tynnu at ei derfyn ac rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi crynodeb o’r adroddiad a’r argymhellion unwaith y bydd y broses wedi'i chwblhau.
 
Ychanegwyd mai "pwrpas yr ymweliad ag Eglwys Gadeiriol Bangor yw sicrhau bod lles ysbrydol cymuned yr Eglwys Gadeiriol yn derbyn gofal, a gwirio cydymffurfiaeth â phrosesau diogelu sefydledig".
 
Yn rhan o'r tîm a fu'n cynnal yr ymweliad oedd: Yr Hybarch Chris Potter, cyn-Ddeon Eglwys Gadeiriol Llanelwy a chyn Archddiacon Llanelwy, Yr Hybarch Mike Komor, cyn Archddiacon Margam a chyn Ddeon dros dro Eglwys Gadeiriol Llandaf, y Parchedig Ganon Dr Trish Owens, Offeiriad Cyswllt yn Esgobaeth Llanelwy, a'r sefydliad diogelu annibynnol Thirtyone:eight.
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.