Newyddion S4C

Starmer yn dychwelyd o Washington wedi trafodaeth gyda Trump

28/02/2025
Starmer & Trump

Yn dilyn cyfarfod Donald Trump yn y Tŷ Gwyn yn Washington ddydd Iau, fe fydd Syr Keir Starmer yn parhau i geisio cau'r gagendor gwleidyddol rhwng yr UDA ag Ewrop dros ffawd Wcráin yn ystod y penwythnos sydd i ddod.

Mae arweinwyr gwleidyddol y Deyrnas Unedig wedi hoffi pwysleisio'r 'berthynas arbennig' sydd rhwng Llundain a Washington erioed, ond mae'r berthynas honno wedi edrych fel un unochrog iawn ers i'r Arlywydd Trump droi'r byd gwleidyddol ben i waered yn yr ychydig wythnosau ers iddo ddychwelyd i rym.

Roedd pryder y byddai'r cyfarfod dydd Iau rhwng Mr Trump a Syr Keir Starmer yn tanlinellu safle ynysig Prydain, yn y gwyll rhwng Washington a'r bloc Ewropeaidd ym Mrwsel, ond bu ymateb cynnes yn y wasg i ymddangosiad Syr Keir ar y cyfan.

Fel consuriwr yn tynnu cwningen allan o het, fe gynigiodd wahoddiad gan y Teulu Brenhinol am yr eildro i Donald Trump i ddod i Brydain - rhywbeth oedd yn siŵr o blesio dyn sy'n gymaint o gefnogwr o rwysg a statws.

Ac er na aeth Mr Trump mor bell ag addo sicrwydd diogelwch milwrol i lywodraeth Wcráin yn ystod y cyfarfod, fe leddfodd ychydig o bryderon Syr Keir Starmer am yr hyn allai ddigwydd o ganlyniad i unrhyw gytundeb heddwch rhwng y wlad honno a Rwsia.

Ond aeth yn bellach - gan godi cwestiwn os oedd erioed wedi galw Volodymyr Zelensky yn unben.

Image
taflegrau
Roedd y sefyllfa yn Wcráin yn uchel ar agenda Syr Keir cyn iddo gyfarfod Donald Trump

Roedd hefyd yn llai bygythiol nag yr oedd wedi bod ar y pwnc o fasnachu, a'r perygl o osod tollau ar fasnach gyda Phrydain i'r dyfodol.

I Syr Keir Starmer, fe fydd yn dychwelyd i Lundain yn fodlon gyda'r hyn a fu yn Washington, a'r gwaith o'i flaen o groesawu Volodymyr Zelensky i Downing Street dros y penwythnos.

Bydd arweinwyr o bob rhan o Ewrop yn ymgynnull yn Llundain ddydd Sul, yn dilyn wythnos pan aeth Syr Keir, Emmanuel Macron o Ffrainc ac arlywydd Wcráin i gyd i'r UDA ar gyfer trafodaethau gyda Mr Trump.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn parhau i wrthsefyll galwadau i ymrwymo grym milwrol America i warantu unrhyw gytundeb heddwch yn Wcráin, ond mae wedi awgrymu cysylltiadau economaidd agosach a byddai cytundeb ar fwynau prin rhwng Kyiv a Washington i bob pwrpas yn gweithredu fel gwarant o ddiogelwch.

Bydd trafodaethau diplomyddol dwys ddydd Sul yn gweld Mr Zelensky a Giorgia Meloni o’r Eidal yn ymweld â Rhif 10 ar wahân, y Prif Weinidog yn cadeirio galwad gyda gwledydd y Baltig - Latfia, Lithwania ac Estonia - cyn cynnal uwchgynhadledd arweinwyr Ewropeaidd.

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.