Rygbi: Ioan Cunningham wedi'i benodi'n brif hyfforddwr tîm merched Ffiji
Mae cyn-brif hyfforddwr merched Cymru, Ioan Cunningham, wedi cael ei benodi'n brif hyfforddwr ar dîm merched Ffiji.
Fe wnaeth Cunningham, 42 oed, ymddiswyddo fel prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru wedi cyfnod o dair blynedd ym mis Tachwedd y llynedd.
Bydd y prif hyfforddwr newydd yn cymryd rheolaeth o Ffiji cyn Cwpan y Byd ym mis Awst eleni yn Lloegr.
Maen nhw yn yr un grŵp a Chymru yn y gystadleuaeth.
Dywedodd ei fod yn "fraint" cael y cyfle i fod yn brif hyfforddwr ar Ffiji.
"Dwi'n gyffrous iawn i weithio gyda'r grŵp yma o athletwyr a staff," meddai.
"Mae potensial y grŵp yma yn enfawr ac mae'n fraint i dderbyn y cyfle hwn i weithio gyda'r garfan a chynrychioli Ffiji.
"Mae'n flwyddyn hynod bwysig yn rygbi merched, a dwi'n edrych ymlaen at arddangos y dalent o fewn y garfan."
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2023 oedd uchafbwynt ei gyfnod wrth y llyw gyda Chymru, gyda’i dîm yn llwyddo i ennill tair o’r pum gêm gan guro Iwerddon, Yr Alban a’r Eidal, a gorffen yn drydydd.
Yn 2021, llwyddodd Cymru i gyrraedd y chwarteri yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd, er i’r tîm ennill un gêm yn unig a hynny o drwch blewyn yn erbyn yr Alban yng ngemau’r grŵp.
Llun: Asiantaeth Huw Evans