
Dyn ifanc o'r de wedi marw fisoedd ar ôl cael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd
Mae dyn 19 oed o’r de wedi marw ychydig fisoedd yn unig ar ôl cael gwybod bod ganddo diwmor prin ar yr ymennydd.
Roedd Jac Sexton o Aberdâr yng Nghwm Cynon wedi dechrau ar yrfa fel barbwr pan gafodd ei daro'n wael ym mis Hydref 2024.
Pan aeth at y meddyg fe gafodd gam-ddiagnosis o haint ar y glust gan ei fod wedi dioddef gyda thwymyn y chwarrenau ('glandular fever') yn ystod yr haf blaenorol.
Roedd ei symptomau yn golygu ei fod yn ymddangos yn feddw, ag yntau’n teimlo’n benysgafn gyda thrafferth i siarad yn eglur.
Fe aeth Jac yn ôl at ei feddyg y diwrnod wedyn ac fe gafodd wybod y byddai'n cael sgan CT bythefnos yn ddiweddarach.
Ond roedd ei symptomau yn parhau i waethygu ac ar ôl mynd i'r ysbyty ym Merthyr Tudful y diwrnod canlynol, fe gafodd Jac a’i fam wybod fod ganddo diwmor ar yr ymennydd.
Roedd y canser mewn rhan o'i ymennydd fel nad oedd modd iddo gael biopsi.
Roedd lleoliad y glioblastoma hefyd yn golygu nad oedd modd mynd i’r afael â’r tiwmor yn y ffordd arferol.
Yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty, bu farw Jac yn ei gartref wedi ei amgylchynu gan ei deulu ar 25 Chwefror.

'Cymeriad'
Roedd ewythr Jac, Rhydian Sexton, 37 o Aberdâr, “fel tad iddo.”
“Roedd Jac wedi cyffwrdd a gymaint o bobl yn ystod y misoedd diwethaf,” meddai.
“Roedd y nyrsys yn ei alw ‘Sassy Jac.’ Er gwaethaf yr holl bethau yr oedd yn mynd trwyddo, roedd ganddo gymaint o gymeriad.
“Dyna oedd yn ei gadw e’n brwydro am gyfnod mor hir. Yn ystod y pythefnos olaf, da ni wedi chwerthin gymaint yn y tŷ ac mae wedi bod yn arbennig.
“Mae’r berthynas oedd da fe a’i deulu yn dweud y cyfan. Roedd yn hapus, dyna oedd y prif beth.”

Cafodd Jac chwe mis o radiotherapi a ddaeth i ben ar Noswyl Nadolig.
Yn sgil y driniaeth fe gollodd y gallu i lyncu neu godi o’r gwely ac oherwydd hynny fe ddioddefodd argyfwng gan nad oedd modd iddo anadlu.
Ar 4 Ionawr roedd darn o fwyd, diod neu boer wedi mynd i mewn i'w bibell wynt ac i’w ysgyfaint gan olygu bod yn rhaid iddo gael llawdriniaeth ar frys a hynny yn ei gartref.
Cafodd ei deulu eu rhybuddio y byddai Jac yn debygol o fod yn anabl pe bai'n goroesi.
Ond pan ddeffrodd Jac, doedd dim anabledd o’r fath ganddo.
“Dywedodd y meddygon nad oedden nhw erioed wedi gweld unrhyw beth fel hyn ers dros 30 mlynedd,” meddai Rhydian.
“Y nod nawr yw hyrwyddo stori Jac a chodi gymaint o arian ag a gallwn ni.”