Newyddion S4C

CPD Wrecsam wedi 'taflu cyfle' i fynd i Wembley ar ôl colli yn erbyn Peterborough

27/02/2025
Wrecsam yn colli yn erbyn Peterborough

Colli ar giciau o’r smotyn oedd hanes tîm pêl-droed Wrecsam yn erbyn Peterborough yn rownd gyn-derfynol Tlws yr EFL nos Fercher. 

Yn dilyn gêm gyfartal o 2-2, fe gollodd Wrecsam o 4-2 ar giciau o’r smotyn. 

Bradley Ihionvien sgoriodd i Peterborough yn ystod munud cyntaf amser ychwanegol y gêm er mwyn gorfodi ciciau o’r smotyn. 

Mae’r golled yn golygu na fydd Wrecsam yn cael cyfle i chwarae yn Stadiwm Wembley yn ddiweddarach fis Ebrill yn rownd derfynol y gystadleuaeth. 

Wrth siarad wedi’r gêm dywedodd prif hyfforddwr Wrecsam, Phil Parkinson eu bod wedi “taflu cyfle i fynd i Wembley i ffwrdd.” 

Roedd yn canmol ei ddynion am “chwarae’n dda” yn ystod hanner cyntaf y gêm - gyda Wrecsam ar y blaen o 2-0. 

Ond roedd gadael i Peterborough gipio dwy gôl yn ystod gem “gyfforddus” yn “anodd i'w gymryd,” meddai.

Bydd Peterborough yn wynebu Birmingham yn Wembley yn Llundain ar 13 Ebrill. 

Llun: Clwb pêl-droed Wrecsam/X

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.