System bleidleisio ar-lein newydd ar gyfer Cân i Gymru 2025
Bydd proses bleidleisio newydd ar gyfer cystadleuaeth S4C Cân i Gymru 2025 eleni, gyda symud i wasanaeth pleidleisio ar-lein am ddim.
Daw'r newid flwyddyn wedi i rai gwylwyr gael trafferthion pleidleisio dros y ffôn oherwydd nam technegol.
Fel yr arfer, y gwylwyr fydd yn penderfynu ar y gân fuddugol ar y noson drwy bleidleisio am eu hoff un o blith yr wyth fydd yn cystadlu.
Eleni, bydd y broses bleidleisio yn newid i wasanaeth ar-lein yn unig, gan ddilyn yr un drefn â chystadlaethau teledu mawr eraill.
Bydd modd pleidleisio gan ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar a’r ddolen: s4c.cymru/canigymru.
Meddai y cyd-gyflwynydd Elin Fflur: “Mae S4C ac Afanti, sy’n cynhyrchu rhaglen Cân i Gymru 2025, wedi creu proses bleidleisio syml ac effeithiol sy’n cymryd llai na munud i’w gwblhau.
“Bydd wyth cân wych yn y gystadleuaeth eleni - cofiwch mai dim ond un bleidlais fydd ar gyfer pob cyfeiriad e-bost, felly dewiswch yn ofalus!”
'Torri rheolau'
Daw'r newid i'r system bleidleisio wedi i Ofcom benderfynu bod y rhaglen Can i Gymru ar Ddydd Gwyl Dewi y llynedd wedi torri rheolau.
Dywedodd y rheoleiddiwr fis Tachwedd bod y pleidleisio “wedi'i gynnal yn annheg” a'i fod “yn sylweddol gamarweiniol” a hynny oherwydd nam technegol.
Wrth i’r gân 'Ti' gan Sara Davies gipio gwobr Cân i Gymru 2024, mynegodd nifer fawr o bobol eu rhwystredigaeth ar gyfryngau X a Facebook am nad oedden nhw wedi llwyddo i bleidleisio.
Dywedodd Ofcom mai 10 o bobl oedd wedi cwyno wrthyn nhw.
Roedd S4C eisoes wedi ymddiheuro am y nam ac ad-dalu gwylwyr am gostau pleidleisio ychwanegol.
Fe wnaeth y rheoleiddiwr ganfod bod y sioe wedi torri y rheolau canlynol:
- Rhaid cynnal cystadlaethau darlledu a phleidleisio yn deg.
- Rhaid i ddarlledwyr sicrhau nad yw gwylwyr a gwrandawyr yn cael eu camarwain yn sylweddol ynghylch unrhyw gystadleuaeth ddarlledu neu bleidleisio.
- Rhaid gwneud y gost i wylwyr am ddefnyddio gwasanaethau teleffoni nad ydynt yn rhai daearyddol yn glir iddynt a’u darlledu fel y bo’n briodol.
Dywedodd S4C ar y pryd ei fod yn derbyn y penderfyniad, a’i fod un “hyderus” bod y canlyniad yn un dilys.
Sut mae pleidleisio?
Bydd modd pleidleisio gan ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar a’r ddolen: s4c.cymru/canigymru.
Yr unig beth fydd ei angen fydd cysylltiad â’r wê a chyfeiriad e-bost dilys.
I'r rhai sydd am bleidleisio ar ffôn clyfar, bydd côd QR ar y sgrin yn ystod y rhaglen fyw i'w cyfeirio'n uniongyrchol at y wefan bleidleisio.
Unwaith ar y dudalen, gall gwylwyr glicio ar y blwch pleidleisio i ddewis eu hoff gân. Dim ond un bleidlais i bob cyfeiriad e-bost a ganiateir
Wedi wylwyr gadarnhau eu dewis a bwrw pleidlais trwy ddilyn y camau o nodi enw, côd post a chyfeiriad e-bost, bydd angen dilysu ebost er mwyn cwblhau’r broses.
Gwobr
Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr yw cadeirydd panel y beirniaid fydd yn mentora'r perfformwyr ac yn cyflwyno tlws Cân i Gymru i'r cyfansoddwr buddugol.
Y beirniaid yw’r cerddor Peredur ap Gwynedd; y gantores, actores a cyflwynydd Caryl Parry Jones, y rapiwr a chyfansoddwr Sage Todz a’r gantores a’r gyfansoddwraig Catty.
Yn ogystal â derbyn tlws a theitl Cân i Gymru 2025, bydd cyfansoddwr y gân fuddugol yn derbyn £5,000 a chytundeb perfformio. Bydd y rhai yn yr ail a’r trydydd safle yn derbyn gwobrau o o £3,000 a £2,000 yr un.