Naw ym mhob 10 myfyriwr wedi defnyddio AI yn eu gwaith prifysgol
Mae bron i naw ym mhob 10 myfyriwr yn y DU wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i helpu gyda’u gwaith prifysgol, yn ôl adroddiad newydd.
Roedd yr arolwg gan y Sefydliad Polisi Addysg Uwch (Hepi) yn awgrymu bod 88% o fyfyrwyr wedi defnyddio AI - cynnydd o’r 53% a ddywedodd hynny'r llynedd.
Mae’r adroddiad yn galw ar sefydliadau i “brofi” eu hasesiadau ar frys i wirio nad oes modd eu cwblhau yn hawdd gan ddefnyddio AI.
Fe gafodd 1,041 o fyfyrwyr eu holi fel rhan o’r astudiaeth.
- Roedd 18% yn dweud eu bod nhw wedi defnyddio AI i ysgrifennu neu olygu testun fel rhan o’u hasesiadau.
- Roedd 58% wedi ei ddefnyddio er mwyn esbonio cysyniadau.
- Roedd 48% wedi ei ddefnyddio er mwyn cynnig crynodeb o erthyglau.
- Roedd 41% wedi ei ddefnyddio er mwyn awgrymu syniadau ar gyfer ymchwil.
- Roedd 39% wedi ei ddefnyddio er mwyn strwythuro eu dadleuon.
Dywedodd Josh Freeman, rheolwr polisi Hepi ac awdur yr adroddiad: “Anaml iawn ydyn ni’n gweld newidiadau mor fawr â hyn mewn dim ond 12 mis.
“Mae’r canlyniadau’n dangos pa mor gyflym mae myfyrwyr yn manteisio ar AI.
“Mae llawer o fyfyrwyr yn eu hystyried yn rhan greiddiol o’r broses ddysgu. Dylai prifysgolion gymryd sylw: mae AI yma i aros.
“Rhaid i bob prifysgol adolygu pob asesiad rhag ofn bod modd ei gwblhau'n hawdd gan ddefnyddio AI.
“Ni fydd sefydliadau’n datrys yr un o’r problemau hyn ar eu pen eu hunain a dylent geisio rhannu arfer gorau gyda’i gilydd.
“Yn y pen draw, dylid defnyddio AI i hyrwyddo dysgu yn hytrach na’i atal.”
Beth yw polisïau prifysgolion Cymru?
Mae Prifysgol Bangor yn cydnabod y gallai AI “gynyddu'r cyfle ar gyfer bod yn anonest yn academaidd”.
Ond dywed polisi'r brifysgol bod gwahardd ei ddefnydd yn “gymhleth” oherwydd ei fod bellach yn rhan annatod o feddalwedd fel Word.
“Dylid adolygu a diwygio cynlluniau asesu fel na ellir cyflawni canlyniadau dysgu trwy ddefnyddio technoleg AI yn unig,” meddai polisi'r brifysgol.
Ychwanega'r prifysgol: “Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr i ddatblygu ac ymgorffori hyfforddiant mewn defnyddio technoleg AI mewn modd cyfrifol.”
Dywed polisi Prifysgol Aberystwyth bod manteision i ddefnyddio AI mewn addysgu mewn ffordd “moesegol”.
Maen nhw serch hynny yn nodi bod “cyflwyno gwaith AI fel eich gwaith eich hun” yn ymarfer academaidd annerbyniol.
Mae tudalen cyngor Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn nodi bod AI yn “arf gwerthfawr ar gyfer cynhyrchu syniadau a gwella strwythur ysgrifennu”.
Serch hynny gall hefyd fod yn “annibynadwy ac ni ellir dibynnu arno ar gyfer cywirdeb ffeithiol,” medden nhw.
“Rydym yn ymwybodol o amgylchiadau lle mae AI wedi cynhyrchu cyfeiriadau ffug, lle mae’n ymddangos bod y rhain yn ddilys,” meddai.
“Mae AI hefyd wedi ‘creu’ damcaniaethau, wedi defnyddio gwybodaeth sydd wedi dyddio ers sawl blwyddyn, neu wedi llên-ladrata gwaith pobl eraill.”