Newyddion S4C

Arweinwyr y byd yn cwrdd tair blynedd ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin

Arweinwyr y byd yn cwrdd tair blynedd ers dechrau'r rhyfel yn Wcráin

Arweinwyr byd yn un yn Wcráin.

Yn Kyiv heddiw, cyfle i gofio. A chyfle i drafod, wrth iddi ddod yn fwyfwy amlwg bod perthynas yr Arlywydd Trump a'r Unol Daleithiau a'r Arlywydd Putin a'r Kremlin yn cynhesu.

"It is not only the destiny of Ukraine that is at stake. It is Europe's destiny that is at stake.

"Our first priority remains to empower Ukraine's resistance."

Mae'n dair blynedd ers i luoedd Rwsia ddechrau ymosod ar Wcráin.

Mae gwleidyddion o Gymru wedi bod yn rhan o'r ymdrech ddyngarol ac wedi teithio i'r brifddinas heddiw i nodi'r achlysur.

"Mae Kyiv heno yn brifddinas gadarn iawn. Mae'r bobl yn gadarn yn erbyn beth mae Putin wedi gwneud i'r wlad.

"Maen nhw eisiau heddwch ond heddwch teg sy'n mynd i bara. Maen nhw'n gwybod os ydyn nhw eisiau heddwch go iawn rhaid i Putin a Rwsia dynnu nol.

"Dyw hynny ddim yn edrych fel bod e'n mynd i ddigwydd ar hyn o bryd.

"Y bobl dw i wedi siarad â nhw heno yn Kyiv yr un mor gadarn nawr na beth oedden nhw blwyddyn, dwy flynedd, tair blynedd yn ol."

Y pryder bellach yn Wcráin yw nad diwedd y gan fyddai trechu byddinoedd Kyiv.

"We must contribute efforts to stop the Russian war against Ukraine.

"The basis for this aggression is the impunity which Russia enjoys.

"Russia has never been punished and believes they can do what they want.

"We must demonstrate strength that enough is enough."

Mae'n gyfnod allweddol yn y berthynas rhwng Arweinyddion Ewropeaidd a'r Arlywydd Trump.

Mae e wedi gofyn i Ewrop ysgwyddo mwy o'r baich ac wedi gaddo dod a'r rhyfel yn Wcráin i ben.

Er y trafod am fargen fwynau mae'n amhosib dweud beth fydde telerau unrhyw gytundeb.

"We will be meeting with President Zelenskyy. He may come in this week or next week to sign the agreement."

O ran y trafodaethau, 'dan ni'n gobeithio gweld Ewrop yn cyfranogi mwy yn y sgyrsiau rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia.

"'Dan ni'n disgwyl yfory i'r UDA a Rwsia gael sgwrs arall ar natur y rhyfel yn Wcráin.

"Nid yw Ewrop yn teimlo bod nhw'n cael bod yn rhan o'r sgyrsiau. Mae hynny'n rhywbeth pwysig bydd Macron yn sgwrsio.

"Mae angen i Ewrop ddod at ei gilydd a chydweithio efo America a dechrau deall mwy am y darlun yna.

"Mae'r Undeb Ewropeaiedd a'r UDA wastad wedi bod yn agos ond mae'r ddau bwer yn dod ymhellach oddi ar ei gilydd.

"Efallai cawn gwell syniad o beth fydd y berthynas rhwng y ddau yn y dyfodol a beth bydd y berthynas rhwng yr UDA a Rwsia."

Ar drothwy ei ymweliad â Washington mae Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi sancsiynnau newydd yn erbyn Rwsia ac yn dweud i'r Arlywydd Trump newid y drafodaeth ryngwladol.

Wrth i Kyiv bwyllo, a chofio Heddiw fe all y dyddiau nesaf fod yn drobwynt yn y berthynas rhwng Ewrop a'i phartner hollrymus ben arall yr Iwerydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.