Newyddion S4C

Keir Starmer yn cyhoeddi cynnydd £13.4 biliwn mewn gwario ar amddiffyn

25/02/2025
Keir Starmer

Mae Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi y bydd £13.4 biliwn y flwyddyn yn ychwanegol yn cael ei wario am amddiffyn erbyn 2027.

Mewn cyhoeddiad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog y bydd gwariant ar amddiffyn yn codi o 2.3% i 2.5% o gynnyrch domestig gros y wlad (CDG).

Dyma’r cynnydd mwyaf mewn gwariant amddiffyn ers y Rhyfel Oer.

Bydd gwariant ar gymorth tramor yn gostwng o 0.5% i 0.3% yn 2027 yn ogystal, er mwyn ariannu’r cynnydd mewn buddsoddiad mewn amddiffyn.

Daw’r cyhoeddiad cyn i Mr Starmer deithio i Washington DC ddydd Iau i gwrdd ag arlywydd America, Donald Trump.

Yn ei ddatganiad, dywedodd Mr Starmer: “Rhaid i ni ganfod dewrder yn ein hanes, dewrder yn pwy ydym ni fel cenedl, oherwydd dewrder yw'r hyn y mae ein cyfnod ni nawr yn ei fynnu.

“Byddwn yn cyflawni ein hymrwymiad i wario 2.5% o’n CDG ar amddiffyn, ond byddwn yn ei gyflwyno fel ein bod yn cyrraedd y lefel honno yn 2027, a byddwn yn cynnal hynny ar gyfer gweddill y tymor hwn yn y Senedd.

“A gadewch i mi egluro, mae hynny’n golygu gwario £13.4 biliwn yn fwy ar amddiffyn bob blwyddyn o 2027 ymlaen.”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch nad oedd gwario 2.5% o CDG ar amddiffyn “bellach yn ddigonol”.

Wrth annerch Tŷ’r Cyffredin, dywedodd Ms Badenoch bod angen gwario arian “sylweddol fwy”.

Dywedodd Mr Starmer ei fod yn gobeithio y byddai’r gwariant yn codi i 3% o CDG y wlad erbyn 2030, petai Llafur yn cael eu hail-ethol yn nhymor nesaf y Senedd San Steffan.

Fe wnaeth hefyd erfyn ar y gwledydd Ewropeaidd yn Nato i “gamu ymlaen” a chodi gwariant ar amddiffyn, yn sgil ansicrwydd dros ymrwymiad America i’r rhyfel yn Wcráin.

'Camgymeriad strategol'

Dywedodd Liz Saville Roberts, Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, y gallai’r penderfyniad i dorri gwariant ar gymorth dramor fod yn "gamgymeriad strategol mawr".

Dywedodd Liz Saville Roberts: “Mae Plaid Cymru yn sefyll yn gadarn gyda’r angen i ddiogelu sofraniaeth Wcráin oherwydd mae diogelwch rhyngwladol hefyd yn golygu diogelwch cenedlaethol.

“Ond bydd y DU nawr yn torri’r gyllideb cymorth tramor sydd eisoes wedi lleihau i ariannu gwariant milwrol. Mae diogelwch cenedlaethol yn galw am adeiladu heddwch yn ogystal â lluoedd arfog."

Wrth ymateb, fe wnaeth y Prif Weinidog gydnabod pwysigrwydd cymorth tramor, ond gan fynnu bod mwy o wariant amddiffyn bellach yn flaenoriaeth.

“Mae hi’n iawn i godi pwysigrwydd datblygu tramor," meddai, "ond dyma foment lle mae'n rhaid i ni gamu i fyny. Dyma foment lle mae’n rhaid inni gynyddu ein gwariant ar amddiffyn. 

“Wrth gwrs, byddai pawb yn y Tŷ hwn yn dymuno nad dyma'r sefyllfa. 

“Mae'n rhaid i ni gamu i fyny, a'n dyletswydd gyntaf yw cadw'r wlad yn ddiogel. 

"Er mwyn gwneud hynny, mae angen cynllun credadwy – cynllun anodd, rwy’n derbyn – nid penderfyniad yr oeddwn am ei wneud, ond cynllun credadwy ar gyfer amddiffyn a diogelwch ein gwlad ac Ewrop.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.