Newyddion S4C

Rygbi: Dewi Lake yn dychwelyd i garfan Cymru wedi anaf

Dewi Lake

Mae Dewi Lake wedi ei alw i garfan Cymru ar gyfer gweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Doedd bachwr y Gweilch, a oedd yn gapten ar Gymru yng Ngemau’r Hydref, heb ei ddewis ar gyfer y Chwe Gwlad yn wreiddiol oherwydd anaf i’w fraich.

Ond ar ôl derbyn llawdriniaeth, mae’r blaenwr 25 oed wedi gwella o’i anaf a’i alw yn syth i’r garfan gan y prif hyfforddwr dros dro, Matt Sherratt.

Bydd yn obeithiol o wneud ymddangosiad yn y bencampwriaeth ar ôl iddo fethu’r Chwe Gwlad dros y ddwy flynedd diwethaf.

Fe fydd yn cystadlu â’r bachwyr eraill, Elliott Dee, Evan Lloyd a Sam Parry, am le yn y garfan ar gyfer y gêm nesaf, yn erbyn Yr Alban yng Nghaeredin ar ddydd Sadwrn 8 Mawrth.

Fe fydd chwe chwaraewr yn cael ail-ymuno a’u rhanbarthau yr wythnos hon yn ogystal.

Bydd tri o chwaraewyr y Gweilch - Dan Edwards, Ben Warren a Sam Parry; dau chwaraewr y Scarlets, Taine Plumtree a Joe Roberts, a mewnwr Caerdydd, Ellis Bevan, yn cael eu rhyddhau i chwarae dros eu rhanbarthau yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig y penwythnos hwn.

Fe fydd sawl aelod arall o’r garfan hefyd yn ymadael wythnos yma wrth i'r rhai sydd yn chwarae yn Lloegr a Ffrainc gael eu galw nôl i hyfforddi gyda’u clybiau.

Bydd hyn yn cynnwys Tomos Williams, Gareth Anscombe, Max Llewellyn, Freddie Thomas a Josh Hathaway (Caerloyw); Dafydd Jenkins a Christ Tshiunza (Caerwysg); Nicky Smith a Tommy Reffell (Caerlŷr); Jarrod Evans (Harlequins); Nick Tompkins (Saracens) a Will Rowlands (Racing 92).

Bydd yr holl chwaraewyr sydd wedi’u rhyddhau yn dychwelyd i bencadlys hyfforddi’r tîm yng Ngwesty’r Fro yn Hensol ddydd Llun i baratoi am y daith i Murrayfield y penwythnos wedyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.