Newyddion S4C

Undeb ffermwyr yn galw am 'ddadwneud' treth etifeddiaeth mewn cynhadledd genedlaethol

Protest ffermwyr

Fe ddylai’r Llywodraeth Lafur "ail-osod" ei pherthynas gyda ffermwyr yn dilyn misoedd o brotestiadau dros newid y dreth etifeddiaeth ar ffermydd.

Yng nghynhadledd undeb NFU ddydd Mawrth, mae disgwyl y bydd y llywydd Tom Bradshaw yn cyhuddo Llywodraeth y DU o dorri addewidion gyda’r polisi “anfoesol” o gyflwyno treth etifeddiaeth i ffermydd sydd werth dros £1 miliwn.

Fe fydd yn galw ar y Llywodraeth i “wneud y peth cywir” a dadwneud y polisi.

Fe fydd hefyd yn dweud bod y diwydiant ffermio yn wynebu’r “creisis ariannu gwaethaf mewn cenedlaethau”, o ganlyniad i “dywydd digynsail”, polisi gwael a digwyddiadau byd eang.

“Rydyn ni’n cydnabod bod y rhain yn ddyddiau cynnar i’r llywodraeth newydd, ond prin y byddai’r gweinidogion newydd yn gwybod eu ffordd i’w swyddfeydd pan dorrwyd eu haddewid cyntaf.

“Ac mae’n un sy’n taflu cysgod dros bopeth arall, gan gyfyngu ein gallu i gynllunio, buddsoddi ac, yn aml, i obeithio. Mae’n hongian dros ein ffermydd, ein teuluoedd, ein dyfodol: y dreth fferm deuluol.”

Fe ychwanegodd: “Fe fyddwn ni’n brwydro yn erbyn treth y fferm deuluol nes bod gweinidogion yn gwneud y peth iawn.

“Mae angen ailosod perthynas y Llywodraeth hon gyda ffermwyr, lle maen nhw’n wynebu’r realiti o faint mae’r diwydiant yn ei chael hi’n anodd.”

'Dinistriol'

Daw wedi i ddadl dros newidiadau i’r dreth gael ei drefnu yn y Senedd ar 5 Mawrth.

Bydd y ddadl yn cael ei harwain yn y Senedd gan Weinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Gwledig, Llŷr Gruffydd AS.

Fe ddywedodd: "Bydd y penderfyniad hwn gan Lywodraeth y DU yn arwain at ganlyniadau dinistriol i deuluoedd ffermio ledled Cymru.

"Mae'r polisi yn anfaddeuol ac yn gwbl wrthgynhyrchiol ar adeg pan mae angen i ni fod yn cryfhau ein diogelwch bwyd nid ei danseilio.

"Dyna pam mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r achos cryfaf posib i'w cydweithwyr Llafur yn Llundain i newid trywydd."

Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Mr Aled Jones: “Os bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i dreth etifeddiant yn mynd yn eu blaen, yna fe fyddan nhw’n cael effaith hynod o andwyol ar ffermydd teuluol Cymru a’r holl fusnesau sydd yn eu tro yn dibynnu arnyn nhw.  

“Drwy osod rhwymedigaethau treth anghynaliadwy ar asgwrn cefn ein system fwyd, mae perygl i Lywodraeth y DU ddatgymalu sector hanfodol a gwagio ein cymunedau gwledig.”

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gydag adran amaeth Llywodraeth y DU, DEFRA, am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.