Newyddion S4C

Apêl arall i adnabod corff a gafodd ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr

cronfa ddwr claerwen.png

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi apêl arall i adnabod corff a gafodd ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr ym Mhowys y llynedd.

Fe gafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Gronfa Ddŵr Claerwen yn dilyn adroddiadiadau fod corff yn y dŵr ychydig cyn 08.30 ddydd Gwener 18 Hydref 2024.

Dywedodd y llu y gallai'r corff fod wedi bod yno am "hyd at 12 wythnos".

Yn ôl y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting, corff dyn gafodd ei ddarganfod oedd rhwng 30 a 60 oed.
 
"Roedd y dyn yn 6" o daldra ac yn gwisgo siwt wlyb Zone 3 Agile," meddai.
 
"Mae'r siwt wlyb yn fawr iawn, felly mae’n bosibl fod y person oedd yn ei gwisgo tua 6" - 6'5" o daldra, tua 202-220 pwys, gyda brest 44-48 modfedd."
Image
Apel Cronfa Claerwen
 
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Ponting bod y llu yn "cadw meddwl agored" am amgylchiadau ei farwolaeth.
 
"Rydyn ni wedi cynnal nifer o ymholiadau, gan gynnwys gwirio cofnodion unigolion coll gyda heddluoedd eraill a chynnal ymholiadau fforensig yn lleol a thu hwnt ar y cyd â Phartneriaid Gorfodi’r Gyfraith," meddai.
 
"Yn anffodus, nid yw’r ymholiadau hyn wedi arwain at adnabod y dyn.
 
"Rydyn ni’n cadw meddwl agored ynghylch yr amgylchiadau ac yn parhau i weithio i ddarganfod pwy oedd e, unrhyw deulu, a beth ddigwyddodd iddo."
 
Mae'r heddlu dal yn awyddus i siarad ag  unrhyw un a aeth i Gronfa Ddŵr Claerwen, neu’r ardal gyfagos, rhwng dechrau Gorffennaf 2024 a 18 Hydref. 
 
Mae'n nhw'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.