Cannoedd mewn protest dros ddyfodol ysgol gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd
Cannoedd mewn protest dros ddyfodol ysgol gerddoriaeth Prifysgol Caerdydd
Daeth cannoedd o bobl ynghyd ar safle Prifysgol Caerdydd ddydd Sadwrn i alw ar y sefydliad i ail ystyried y penderfyniad i gau'r Ysgol Gerddoriaeth wrth iddyn nhw geisio gwneud arbedion.
Fe gyhoeddodd Prifysgol Caerdydd ym mis Ionawr eu bod yn ystyried cael gwared â 400 o swyddi llawn amser.
Mae'r sefydliad yn edrych am doriadau mewn adrannau yn cynnwys nyrsio, cerddoriaeth ac ieithoedd modern - gan ystyried uno rhai adrannau hefyd.
Daeth cannoedd ynghyd ddydd Sadwrn i fynegi eu hanfodlonrwydd, gan gynnwys myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a darlithwyr ar garreg drws y brifysgol.
Hyd yma mae deiseb ar-lein sy'n ymgyrchu i achub yr Ysgol Gerddoriaeth wedi cael 25,000 o lofnodion.
Mae Prifysgol Caerdydd yn pwysleisio mai cynigon yw'r rhain ac na fydd unrhyw effaith uniongyrchol yn y tymor byr ar fyfyrwyr.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae heriau yn wynebu prifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig, gan nodi iddyn nhw roi £18.5 miliwn tuag at y sector addysg bellach o fewn yr wythnos diwethaf.
Nid Prifysgol Caerydd yn unig sy'n wynebu heriau.
Cyhoeddodd Prifysgol Bangor ddydd Mercher eu bod yn bwriadu cael gwared â 200 o swyddi.
Mae Prifysgol De Cymru hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n edrych i gael gwared â 90 o swyddi.