Newyddion S4C

Cymru'n colli wedi perfformiad calonogol yn erbyn Iwerddon

Cymru'n colli wedi perfformiad calonogol yn erbyn Iwerddon

Mae tîm rygbi dynion Cymru wedi colli 18-27 yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd, wedi perfformniad calonogol.    

Dyma oedd gêm gyntaf Matt Sherratt wrth y llyw fel prif hyfforddwr dros dro, wedi i Warren Gatland adael ei swydd yr wythnos diwethaf.

Dechreuodd yr ornest gyda Jack Conan yn sgorio cais i'r Gwyddelod yn gynnar, gyda Sam Prendergast yn trosi. 

Sicrhaodd Prendergast driphwynt arall i'r Gwyddelod wedi 21 munud gan ei gwneud yn 0-10 i'r Gwyddelod.   

Tarodd Cymru yn ôl gyda Gareth Anscombe yn trosi ddwywaith, gan ddod o fewn pedwar pwynt i'r Gwyddelod.

Cafodd y Gwyddel Garry Ringrose gerdyn melyn wedi iddo fynd benben â Ben Thomas. 

Ac yna, yn gwbl annisgwyl roedd Cymru ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf, wedi i'r capten Jac Morgan sgorio cais cyntaf y Crysau Cochion. 

13-10 oedd y sgôr ar yr hanner, a chafodd cerdyn melyn Garry Ringrose ei newid i goch.   

Ar ddechrau'r ail hanner, daeth cais arall i Gymru wrth i Tom Rogers lamu dros y llinell yn agos i'r cornel, gan ei gwneud yn 18-10. 

Tarodd Iwerddon yn ôl gyda chic gosb gan Sam Prendergast gan ddod â'r bwlch rhwng y ddau dîm i 5 pwynt. 

A gyda 25 munud yn weddill, llwyddodd Iwerddon i unioni'r sgôr, 18-18 gyda chais gan Jamie Osborne.

Gydag 14 munud yn weddill, aeth y Gwyddelod ar y blaen wedi i Prendergast sicrhau triphwynt arall.  

18- 24 oedd y sgôr gyda 10 munud yn weddill wedi cic ryfeddol gan Sam Prendergast. 

Ond roedd Cymru yn ddi-ildio.  

Daeth cyfnod llawn cyffro ar ddiwedd y gêm wrth i'r Cymry aros i weld a lwyddodd Ellis Mee i sgorio cais ar ei gap cyntaf. 

Er y tu hwnt o agos, cafodd y cais ei wrthod.  

Roedd blinder yn amlwg ar ddiwedd y gêm ynhlith y Cymry, a sicrhaodd y Gwyddelod gic gosb yn hwyr yn y gêm, gan agor y bwlch i 18-27.  

Er gwaetha'r perfformiad dewr a llawer mwy cystadleuol gan Gymru, mae'r canlyniad yn golygu fod y Crysau Cochion bellach wedi colli 15 gêm yn olynol, mewm gemau prawf, ac yn dal i fod ar waelod y tabl ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.  

'Bois yn grêt'

Dywedodd y capten Jac Morgan fod nifer o bethau cadarnhaol ym mherfformiad Cymru: "Ni'n gallu cymeryd lot o hyder o'r perffomiad 'na  a ni'n gallu bod yn rili prowd o'r ffordd o ni'n dod mas a ware. 

"Rhaid rhoi clod i Iwerddon - ma' nhw'n un o'r timoedd gorau yn y byd ac o'n i ynddo y gêm am lot o'r amser 

"O'n i'n meddwl o'n ni'n ardderchog heddi' ac odd y bois yn grêt."   

Mae buddugoliaeth y Gwyddelod yn erbyn Cymru yn golygu fod Iwerddon wedi ennill y Goron Driphlyg ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, ac yn llygadu'r Gamp Lawn.   

Bydd Cymru'n wynebu'r Alban yng Nghaeredin ar 8 Mawrth. 

Llun: Asiantaeth Huw Evans  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.