Iechyd: Gostyngiad mewn amseroedd aros ond targedau wedi eu methu
Mae’r rhestr aros am driniaethau oedd wedi’u cynllunio o flaen llaw gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi gostwng bron i 2,000, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae data o fis Rhagfyr yn dangos bod 800,395 o driniaethau oedd yn aros i’w cwblhau ddiwedd y llynedd, i lawr o 802,268 ym mis Tachwedd – sef gostyngiad o 0.2%.
Mae’r ffigwr ar ei lefel isaf ers mis Awst 2024 ond mae’n parhau i fod yn un o’r misoedd uchaf erioed.
Cynyddodd nifer y triniaethau oedd yn aros i’w cwblhau am fwy na 36 wythnos i ychydig o dan 284,600 – y ffigwr uchaf a gofnodwyd erioed.
Er bod gostyngiad yn y nifer a fu’n aros am fwy na dwy flynedd, ni chafodd cynllun Llywodraeth Cymru i’w dileu ei gyflawni – bron i ddwy flynedd ar ôl y targed o fis Mawrth 2023.
Roedd tua 616,500 o unigolion ar y rhestr aros, gyda rhai angen sawl triniaeth.
Gwrthbleidiau
Tra bod gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y gostyngiad mewn amseroedd aros am driniaeth yn “bositif”, mae’r gwrthbleidiau wedi dweud mai "ychydig gysur" fydd y newyddion diweddaraf i'r cyhoedd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: “Rwy’n falch o weld cynnydd cadarnhaol o ran lleihau amseroedd aros hir a maint y rhestr aros.
“Mae yna dipyn o ffordd i fynd eto a llawer o waith i’w wneud. Ond mae’r set hon o ddata yn dangos bod cynlluniau’r GIG i gynyddu capasiti a gwaith i leihau’r amseroedd aros hiraf yn dechrau cael effaith.”
Dywedodd ei fod yn disgwyl gweld cynnydd pellach yn y misoedd sydd i ddod.
Dywedodd Andrew RT Davies, AS Canol De Cymru a chyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: “Ni fydd pobl Cymru yn cymryd llawer o gysur yn y dirywiad hwn...
“Ar ôl misoedd a misoedd o restrau aros GIG Llafur yn cyrraedd y lefelau uchaf erioed, gostyngiad bach yw’r cam cyntaf mewn taith anhygoel o hir, ac mae gen i amheuon difrifol bod gan Lafur y ffocws i’n cadw ar y llwybr hwn.”
Dywedodd Mabon ap Gwynfor, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd: “Efallai bod niferoedd heddiw yn ymddangos yn bositif, ond mae wedi cymryd llawer gormod o amser.
“Rydym wedi gweld arwyddion o restrau aros yn dod i lawr yn flaenorol, dim ond i Lafur lywyddu dros fisoedd o oedi hirach.
“O ystyried hanes y llywodraeth hon, bydd pobl Cymru yn gwbl amheus o’u gallu i gadw rhestrau aros i lawr yn barhaol.”