Cymru v Iwerddon: Ellis Mee yn ennill ei gap cyntaf
Bydd yr asgellwr Ellis Mee yn cynrychioli ei wlad am y tro cyntaf wrth i Gymru herio Iwerddon yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.
Mae’r ddau chwaraewr o glwb Caerloyw, Gareth Anscombe a Max Llewellyn wedi eu dewis fel maswr ac yn ganolwr – wythnos yn unig ers iddynt gael eu galw i’r garfan gan Matt Sherratt.
Dyma’r gêm gyntaf i Matt Sherratt ers i Warren Gatland gamu o’r neilltu fel prif hyfforddwr Cymru.
Dywedodd Matt Sherratt: “Ry’n ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr at yr her o wynebu Iwerddon.
“Mae’n rhaid i ni fod yn ddewr ac yn drefnus – gyda phob unigolyn yn gwybod beth sy’n ddisgwyliedig ganddyn nhw.
“Allwn ni ddim bod yn esgeulus ac mae’n hanfodol ein bod ni’n cadw’n disgyblaeth.
“Mae pawb yn gyffrous i gael chwarae gartref am y tro cyntaf yn y Bencampwriaeth eleni.
“Mae cefnogwyr Cymru’n creu awyrgylch anhygoel yn Stadiwm Principality ac mae’r chwaraewyr yn awchu i brofi hynny ddydd Sadwrn.”
Gweddill y tîm
Jac Morgan fydd y capten unwaith eto ond bydd Tommy Reffell yn dechrau ei gêm gyntaf o'r Bencampwriaeth eleni yn flaen-asgellwr ochr agored.
Yr wythwr Taulupe Faletau fydd yn cwblhau’r rheng ôl i wynebu’r Gwyddelod.
Yn y rheng flaen, Nicky Smith fydd yn dechrau’n brop pen rhydd a’i gyd-brop fydd WillGriff John – fydd yn chwarae ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Elliot Dee sydd wedi ei ddewis yn safle’r bachwr.
Parhau mae partneriaeth Will Rowlands a Dafydd Jenkins yn yr ail reng. Felly hefyd Tomos Williams yn safle’r mewnwr.
Ben Thomas fydd yn cadw cwmni i Llewellyn yng nghanol y cae.
Yr asgellwr Tom Rogers a cefnwr Blair Murray fydd yn cwblhau’r tri ôl ynghŷd â’r cap newydd Ellis Mee.
Mae Jarrod Evans wedi ei enwi ymhlith yr eilyddion – ac os y caiff ei alw o’r fainc, bydd yn ymddangos dros ei wlad am y tro cyntaf ers haf 2021.
Rhodri Williams a Joe Roberts sydd wedi eu dewis fel eilyddion o safbwynt yr olwyr.
Evan Lloyd, Gareth Thomas, Henry Thomas, Teddy Williams ac Aaron Wainwright yw’r blaenwyr sydd wedi eu dewis ar y fainc.
Tîm Cymru v Iwerddon
15. Blair Murray (Scarlets – 5 cap)
14. Tom Rogers (Scarlets – 7 cap)
13. Max Llewellyn (Caerloyw – 5 cap)
12. Ben Thomas (Caerdydd – 9 cap)
11. Ellis Mee (Scarlets – heb gap)
10. Gareth Anscombe (Caerloyw – 39 cap)
9. Tomos Williams (Caerloyw – 61 cap)
1. Nicky Smith (Caerlŷr – 51 cap)
2. Elliot Dee (Dreigiau – 53 chap)
3. WillGriff John (Sale – 2 gap)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 38 cap)
5. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 20 cap)
6. Jac Morgan (Gweilch – 20 cap) – capten
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 24 cap)
8. Taulupe Faletau (Caerdydd – 105 cap)
Eilyddion
16. Evan Lloyd (Caerdydd – 7 cap)
17. Gareth Thomas (Gweilch – 37 cap)
18. Henry Thomas (Scarlets – 6 chap)
19. Teddy Williams (Caerdydd – 3 chap)
20. Aaron Wainwright (Dreigiau – 54 cap)
21. Rhodri Williams (Dreigiau – 7 cap)
22. Jarrod Evans (Harlequins – 8 cap)
23. Joe Roberts (Scarlets – 2 gap)