Cartrefi yn y gogledd heb drydan wrth i wyntoedd cryfion daro
Mae sawl ardal yng Ngwynedd a Chonwy wedi bod heb drydan am gyfnodau ar fore ddydd Gwener wrth i wyntoedd cryfion achosi trafferthion mewn mannau o Gymru.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt i rannau o Gymru ddydd Gwener, gyda rhai hyrddiadau yn cyrraedd 60 i 70mya mewn rhai mannau.
Mae cwmni SP Energy Networks yn adrodd bod cartrefi mewn ardaloedd ym Mhen Llŷn, Llanberis, Penrhyndeudraeth, Tywyn a Chapel Curig heb drydan fore Gwener.
Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi cyhoeddi fod Ysgol Friars Uchaf ym Mangor hefyd wedi’i chau oherwydd y gwyntoedd cryfion.
Mae’r amodau yn cael effaith ar y ffyrdd yn ogystal, gyda chyfyngiadau cyflymder mewn lle ar Bont Britannia.
Mae cwmni Irish Ferries wedi cyhoeddi bod tair fferi rhwng Dulyn a Chaergybi wedi’u canslo ddydd Gwener oherwydd yr amodau garw.
Yn ôl Stena Line, mae’r fferi o Gaergybi i Ddulyn am 10.00 wedi’i ganslo ond fe fydd y gwasanaeth 19.30 yn parhau i redeg.
Fe fydd y rhybudd mewn grym rhwng 08:00 a 15:00, a bydd yn effeithio ar arfordir y gorllewin a siroedd y de yn bennaf.
Mae disgwyl i wyntoedd 50-60 mya daro arfordiroedd a bryniau agored Cymru, gyda rhai ardaloedd yn cael hyrddiau 70 mya am gyfnod.
Fe allai arwain at amodau teithio heriol ar ffyrdd, rheilffyrdd ac i deithwyr sy’n hedfan o feysydd awyr.
Gallai hefyd arwain at doriadau mewn cyflenwadau trydan i rai am gyfnod.
Rhybudd melyn
Dyma'r siroedd sy'n destun rhybudd melyn:
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Castell-nedd Port Talbot
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Bro Morgannwg