Dau rybudd tywydd newydd yn ystod y penwythnos
Mae dau rybudd tywydd newydd wedi eu cyhoeddi ar gyfer Cymru gan y Swyddfa Dywydd yn ystod y penwythnos.
Mae’r rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar gyfer Cymru gyfan yn ymestyn o 6.00 hyd at 18.00 ddydd Sul.
Mae yna hefyd rybudd am law trwm rhwng 9.00 a 21.00 ddydd Sul ar gyfer y siroedd deheuol canlynol yn unig:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- sir Benfro
- sir Fynwy
- sir Gaerfyrddin
- Torfaen
“Mae siawns o lifogydd, a allai effeithio ar eiddo, o ganlyniad i law trwm yn ystod dydd Sul,” meddai’r Swyddfa Dywydd.
“Mae disgwyl gwyntoedd o’r de a’r de-orllewin a fydd yn cynyddu drwy fore Sul, gan gyrraedd uchafbwynt yn hwyr yn y bore tan yn gynnar yn y prynhawn gyda hyrddiau o 50-60mya, ac efallai cymaint â 70mya mewn mannau agored ar hyd arfordiroedd Môr Iwerddon.”
Dydd Gwener
Daw'r rhybuddion diweddaraf wedi rhybudd am wynt ar gyfer arfordir Cymru rhwng 8.00 a 15.00 ddydd Gwener.
Mae’r rhybudd ddydd Gwener yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Gaerfyrddin
- Ynys Môn