Newyddion S4C

Gwalchmai: 'Lle i gredu' bod marwolaeth mam yn amheus

Emma Williams

Mae yna le i gredu i farwolaeth mam 47 oed ar Ynys Môn fod yn amheus, yn ôl crwner.

Bu farw Emma Jane Jones yn Ysbyty Brenhinol Stoke ar ôl digwyddiad yn ei chartref ym maes Maes Meurig, Gwalchmai  ddechrau’r mis.

Cafodd y cwest yng Nghaernarfon ei ohirio tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Ddydd Llun fe wnaeth ei theulu dalu teyrnged iddi gan ddweud ei bod yn berson "byrlymus, gofalgar a chariadus i fod o gwmpas". 

"Roedd hi’n fam, chwaer, modryb, ac yn ffrind gwych i gymaint o bobl," medden nhw.

“Roedd Emma yn caru ei mab Tommy ac yn ei garu yn ddiamod. Ef oedd y peth pwysicaf yn ei bywyd.

“I Tommy, nid ei fam yn unig oedd hi, ond ei ffrind gorau. Roedd hi'n rhywun y gallai siarad â hi am unrhyw beth. 

"Un o'r rhinweddau niferus yr oedd Tommy'n ei charu am ei fam oedd y gallai wneud i unrhyw un deimlo'n hamddenol yn ei chwmni a byddai bob amser yn gwneud yn siŵr eu bod yn gadael gyda gwên."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.