Carcharu dyn o Gaernarfon am fygwth ei gymdogion gydag arf
Mae dyn o Gaernarfon wedi ei yrru i garchar ar ôl iddo fygwth ei gymdogion gyda machete.
Roedd Gary Pierce Williams o stad Cae Bold, Caernarfon, wedi mynd i dŷ ei gymdogion a'u bygwth yn ystod oriau mân y bore.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod gan Williams, sy'n 43 mlwydd oed, arf yn ei feddiant yn ystod y digwyddiad ym mis Rhagfyr y llynedd.
Ceisiodd fynd i mewn i’r tŷ, gan wneud i’w gymdogion deimlo eu bod mewn perygl. Pan gafodd ei arestio, daeth swyddogion heddlu o hyd i'r machete, ac arf arall yn ei gartref.
Aeth yr heddlu i’r safle ac arestio Williams cyn dod o hyd i’r machete ac arf arall yn ei gartref.
Cafodd ei yrru i garchar am 10 mis, a'i wahardd rhag mynd i Gae Bold am bum mlynedd.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Ian Roberts: “Roedd hwn yn ddigwyddiad ysgytwol i drigolion Cae Bold a chafodd effaith fawr ar eu bywydau.”
“Hoffwn ddiolch i’r dioddefwyr a’r tystion am eu dewrder wrth gefnogi’r heddlu yn ein hymchwiliadau.”
“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn Tai Gogledd Cymru i wneud gwelliannau cadarnhaol i Gae Bold a chefnogi’r rhai sy’n byw yno”.