Newyddion S4C

'Angen gostyngiad o 200 o swyddi' ym Mhrifysgol Bangor

Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn rhagweld y bydd angen gostyngiad o 200 o swyddi yn y sefydliad yn wyneb heriau ariannol.

Mewn llythyr sydd wedi ei anfon gan Is-ganghellor y brifysgol at y gweithwyr cyn cyfarfod holl staff yn ddiweddarach dydd Mercher, dywedodd Yr Athro Edmund Burke bod yn rhaid i Fangor "dargedu arbedion o £15 miliwn".

Mae ychydig dros 900 o staff academaidd yn y brifysgol. Dywed y brifysgol y bydd arbedion yn cael eu gwneud ymhob tîm yn y Gwasanaethau Proffesiynol.

Yn ei lythyr sydd wedi dod i law Newyddion S4C, dywedodd yr Is-ganghellor: "Yn wyneb y gostyngiad ym maint y mewnlif o fyfyrwyr, mae angen i ni leihau lefelau staffio mewn rhai ysgolion penodol a bydd Penaethiaid y Colegau yn cyfathrebu â chi ar wahân i ddweud ymhle y byddwn yn ceisio gwneud gostyngiadau sylweddol er mwyn i gydweithwyr fedru ystyried yr opsiwn o ddiswyddiad gwirfoddol wedi eu harfogi â gwybodaeth am sefyllfa eu maes eu hunain."

Mae'r cyhoeddiad yn y Coleg ar y bryn ddydd Mercher yn dod ddiwrnod yn unig ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd yn rhoi £18.5 miliwn i brifysgolion Cymru.

Bwriad y cyllid yw helpu prifysgolion "i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r sector addysg uwch", meddai Llywodraeth Cymru.

'Heriau sylweddol'

Aiff Yr Athro Edmund Burke ymlaen yn ei lythyr i ddweud bod yr heriau ar lefel sector yn "sylweddol iawn" i Brifysgol Bangor:

"Yn hydref 2024, roedd ein mewnlif ni o fyfyrwyr yn llai nag yn 2023, ac ni wnaethom gyrraedd y targed cyllidebol a oedd wedi ei osod. 

"Roedd ein mewnlif israddedig cartref 7% yn llai ac, o eithrio Meddygaeth, roedd 11% yn llai. 

"Roedd ein mewnlif rhyngwladol hefyd yn llai, gyda’n mewnlif o ôl-raddedigion rhyngwladol ym mis Medi tua hanner y mewnlif yn 2023."

Ychwanegodd bod "gostyngiad pellach ym maint y mewnlif o fyfyrwyr yn debygol yn 2025, gyda cheisiadau 2% yn is na 2024, neu 6% yn is o eithrio Meddygaeth."

Diswyddiadau

Dywedodd y byddai'r brifysgol yn ymestyn cyfnod y cynllun diswyddo gwirfoddol tan ddiwedd mis Mawrth.

"Mae Cyngor y Brifysgol wedi cydnabod y gall fod angen defnyddio diswyddiadau gorfodol os na allwn gyflawni'r arbedion drwy ddiswyddiadau gwirfoddol," meddai.

"Byddwn yn ceisio osgoi gorfod defnyddio diswyddiadau gorfodol, ond rhaid inni gyrraedd ein targed arbedion er mwyn i ni fedru adfer cynaliadwyedd ariannol.

"Deallaf y gallai’r camau angenrheidiol hyn achosi pryder, a hoffwn eich sicrhau fy mod yn parhau’n hyderus yn ein gallu i oresgyn yr heriau sy’n ein hwynebu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.