Newyddion S4C

‘Digon yw digon’: Cyngor Celfyddydau Cymru yn gofyn am fwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru

ITV Cymru

‘Digon yw digon’: Cyngor Celfyddydau Cymru yn gofyn am fwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru

Mae Cyngor y Celfyddydau, sy’n ariannu mudiadau celfyddydol ledled Cymru, wedi gweld toriad ‘mewn termau real’ o tua 40% yn eu cyllideb dros y ddegawd a hanner diwethaf.

Ym mis Rhagfyr llynedd, fe wnaeth National Theatre Wales gau ar ôl colli'i chefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. 

Mewn cyfweliad ar raglen Sharp End, ITV Cymru, fe wnaeth Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau ofyn am fwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd: “Mae'n sefyllfa eitha’ difrifol. Ry’n ni wedi cael costau ychwanegol o tua 40% i'r sector er mwyn cyflawni eu gwaith. 

“Ry’n ni wedi cael toriad [cyllid] o 10.5%. Mae yna straen anhygoel ar gronfeydd eraill sydd yn draddodiadol wedi cefnogi'r celfyddydau. Mae'r gofyn wedi mynd trwy'r to felly mae llwyddiannau yn llai.”

Ddechrau’r flwyddyn, cyhoeddodd un o bwyllgorau’r Senedd adroddiad sy’n dangos bod Cymru, ar ôl degawd o doriadau, yn yr ail safle o’r gwaelod ymhlith gwledydd Ewropeaidd o ran gwasanaethau diwylliannol. 

‘Digon yw digon’ 

Ychwanegodd Mr Rhys: “Nôl yn 2010, roeddem ni fel corff yn ennill rhyw £35m gan Lywodraeth Cymru. Ni lawr bellach i ryw £31m, sy'n doriad mewn termau real o 40%.

“Felly mae angen i ni gael y drafodaeth yna, mae angen i ni ddweud ‘digon yw digon.’

‘Arian ychwanegol’

Mewn ymateb, dywedodd Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant: "Rwy'n sylweddoli bod yna heriau gwirioneddol iawn o fewn y system ac felly rydw i wedi gweithio gyda'r system ers cael fy mhenodi'n Weinidog Diwylliant ym mis Medi. 

“Yr heriau hynny y mae'r sector yn eu hwynebu yw un o'r rhesymau pam rydw i wedi rhoi arian ychwanegol ym mis Rhagfyr, ym mis Medi ac ym mis Gorffennaf eleni. Dyna'r rheswm pam rydw i wedi dod â chodiad yn y gyllideb celfyddydau a diwylliant ar gyfer y sector drafft.

"Rwy'n meddwl bod heriau gwirioneddol iawn yn y sector celfyddydau, rwy'n ymwybodol o'r heriau hynny. Gyda'n gilydd byddwn yn dod drwyddynt."


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.