
Cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc sy’n rhan o’r gymuned LHDTC+
Cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc sy’n rhan o’r gymuned LHDTC+
Mae nifer yr oedolion ifanc sy'n nodi eu bod yn lesbiaidd, hoyw neu'n ddeurywiol wedi cynyddu bedair gwaith dros y degawd diwethaf, yn ôl gwaith ymchwil.
Mae un o bob 10 o bobl ifanc 16-24 oed yn y DU bellach yn ystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol (LHD), yn ôl ffigyrau sydd newydd eu cyhoeddi.
Mae'r adroddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn nodi bod 10.4% o bobl ifanc 16 i 24 oed wedi nodi eu bod yn LHD yn 2023 – cynnydd sylweddol o gymharu â'r blynyddoedd blaenorol.
Mewn ymateb i’r ystadegau newydd, dywedodd Dan Walsh, Is-gadeirydd Pride Cymru: "Wrth i ni wneud cynnydd ar wneud Cymru yn gymdeithas fwy cynhwysol, mae'n galonogol gweld mwy a mwy o bobl yn dod allan ac yn uniaethu fel LHDTC+.
“Rydym wedi gweld cynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn yn nata'r cyfrifiad ac wedi gweld rhai cymunedau fel yng ngogledd Aberystwyth, lle mae cymaint â 16.5% yn nodi eu bod yn rhan o’r gymuned LHDTC+.”
Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris: “Dyw’r ffigyrau ddim yn sioc, maen nhw’n cadarnhau be' dwi’n ei weld o ddydd i ddydd yn gweithio efo [Gwobr] Iris.

“Dwi’n credu bod y cynnydd wedi dod i’r amlwg oherwydd rhesymau digon diflas fel deddfau’ - ‘da ni’n cael priodi, ‘da ni’n cael mabwysiadu plant, mae gennym ni hawliau cyfreithiol ynglŷn ag yn y gweithle, felly mae hwnna wedi helpu.”
Ychwanegodd: “‘Da ni hefyd yn gweld cynrychiolaeth o’n bywydau ni yn fwy aml nag oedden ni ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.”
Mae Ceri Siggins, crëwr cynnwys Cymraeg sy’n rhan o’r gymuned LHDTC+ yn cytuno bod gwell cynrychiolaeth o’r gymuned erbyn hyn.
“Mae loads mwy o queer representation wedi bod yn y cyfryngau. Dim jyst mainstream ond fel yn gyfryngau Cymraeg hefyd.

“Dim ond dwy flynedd yn ôl d’es i mas, a fi’n rili meddwl os bydden i wedi tyfu lan yn gweld mwy o queer representation yn y cyfryngau, falle bydden i wedi dod mas llawer cyn.”
Er y twf yn yr ystadegau diweddar, mae Dan Walsh yn parhau i bryderu nad yw’n hawdd i bawb.
“Er y cynnydd, rydym yn dal i glywed bod gormod o bobl yn ofni ‘dod allan’, oherwydd pryderon o gael eu gwrthod gan deulu, ffrindiau neu hyd yn oed gydweithwyr,” dywedodd.
“Mae’n hanfodol bod y bobl hynny’n ymwybodol eu bod nhw’n cael eu caru ac yn haeddu byw yn hapus fel nhw eu hunain a bod yna ystod eang o gefnogaeth ar gael i’w helpu.”